Skip to main content
  • Donate to NEA
  • Advice
National Energy Action Homepage
  • ABOUT US
    • ABOUT US
    • About NEA
    • What is Fuel Poverty?
    • News and Insights
    • Contact NEA
    • Job Vacancies
  • WHAT WE DO
    • WHAT WE DO
    • Latest Events
    • Campaigns
    • Projects
    • Publications and Resources
    • Training at NEA
    • Policy and Research
    • Advice and Support
    • Water Poverty
    • Smart Meters
  • WORK WITH US
    • WORK WITH US
    • Membership
    • Consultancy & Partnerships
    • Energy Company Obligation
    • Warm Home Discount
    • Charity of the Year
    • Training
  • SUPPORT US
    • SUPPORT US
    • Membership
    • Donate
    • Fundraise
    • Biggest Housewarming
  • ADVICE
    • ADVICE
    • Advice Service
    • SignVideo
    • General advice guidelines
    • Solar PV
    • Finding help elsewhere
  • about us menu
  • About NEA
  • What is Fuel Poverty?
  • News and Insights
  • Contact NEA
  • Job Vacancies
  • about us menu
  • Latest Events
  • Campaigns
  • Projects
  • Publications and Resources
  • Training at NEA
  • Policy and Research
  • Advice and Support
  • Water Poverty
  • Smart Meters
  • about us menu
  • Membership
  • Consultancy & Partnerships
  • Energy Company Obligation
  • Warm Home Discount
  • Charity of the Year
  • Training
  • about us menu
  • Membership
  • Donate
  • Fundraise
  • Biggest Housewarming
  • about us menu
  • Advice Service
  • SignVideo
  • General advice guidelines
  • Solar PV
  • Finding help elsewhere
You are viewing :
  • Professional
  • |
  • Members of the Public
  • NEA
  • NEA Cymru
  • NEA N Ireland
  • Follow us on Twitter
  • Follow us on Facebook
  • Follow us on YouTube
  • Follow us on LinkedIn

Professional | Members of the Public

Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cynllun newydd i ddod â diflastod cartrefi oer i ben

Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cynllun newydd i ddod â diflastod cartrefi oer i ben
Date: 30th Sep 2020
Content Type: News
Nation / Region: Wales
Tags: Cymraeg , Energy Efficiency , Fuel Poverty , News Release

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynlluniau i daclo tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae National Energy Action (NEA) Cymru yn croesawu’r cyfle i sicrhau mai hwn fydd yr ymateb cryfaf posib i ddiflastod cartrefi oer yng Nghymru.

Ni lwyddwyd i gyflawni targedau statudol blaenorol. Mae NEA Cymru eisiau targedau tlodi tanwydd newydd sy’n uchelgeisiol ac sy’n monitro cynnydd yn rheolaidd rhwng nawr a 2035.

Nododd Ben Saltmarsh, Pennaeth NEA Cymru:

“Dyma amser hollbwysig. Mae pobl o bob oedran yng Nghymru’n profi caledi mewn cartrefi oer a llaith, gan gwtogi ar eu defnydd o ynni a wynebu dyledion cynyddol. Heb gynllun difrifol ac uchelgeisiol, bydd tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem ddinistriol yng Nghymru, gan ddifetha a byrhau gormod o fywydau.

“Mae targedau a cherrig milltir clir yn hanfodol i sicrhau cynnydd cyson. Ar hyn o bryd, mae’r cerrig milltir dros dro ar goll ac mae angen mynd i’r afael â hyn. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle da i gryfhau’r cynllun a deall faint o wahaniaeth y mae’n ei wneud mewn gwirionedd i o leiaf un o bob deg o bobl yng Nghymru na allant fforddio cartref cynnes ac iach.”

Mae NEA Cymru wedi cynhyrchu papur byr sy’n amlygu’r ymrwymiadau allweddol yr hoffai’r elusen eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun terfynol. Mae’n gobeithio gweithio gydag ystod o randdeiliaid allweddol i helpu mwyhau’r cynllun yn ystod yr ymgynghoriad i sicrhau ei fod yn helpu’r rhai sydd mewn angen mwyaf.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  1. Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliad gyda Ben Saltmarsh, Pennaeth NEA Cymru, cysylltwch â michael.potter@nea.org.uk/07595410756
  2. Mae National Energy Action (NEA) yn gweithio ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau y gall pawb yn y Deyrnas Unedig fforddio byw mewn cartref cynnes ac iach. I gyflawni hyn, ei nod yw gwella mynediad at gyngor ar ynni a dyledion, darparu hyfforddiant, cefnogi polisïau effeithlonrwydd ynni, prosiectau lleol a chydlynu gwasanaethau cysylltiedig eraill a all helpu newid bywydau.
  3. Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf roedd 12% o aelwydydd (h.y. 155,000 o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, gweler ‘Amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru, 2018’, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2019 ac a ddiweddarwyd ar 13 Rhagfyr 2019: https://llyw.cymru/sites/default/files/statistics-and-research/2019-12/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-ar-gyfer-cymru-2018.pdf
  4. Ystyrir bod aelwyd yn profi tlodi tanwydd os na all gadw’r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru mae hyn yn cael ei amcangyfrif trwy fesur a oes angen i unrhyw aelwyd wario mwy na 10% o’u hincwm ar gynnal trefn wresogi foddhaol. Diffinnir unrhyw aelwyd sy’n gorfod gwario mwy nag 20% fel profi tlodi tanwydd difrifol. Diffinnir aelwydydd agored i niwed fel y rhai sydd â rhywun 60 oed neu’n hŷn, plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed a/neu rywun sy’n anabl neu’n byw gyda chyflwr hir dymor cyfyngol.
  5. Yn ei ‘Hymrwymiad Tlodi Tanwydd i Gymru’ yn 2003 a’i ‘Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010’, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi tanwydd, mor bell ag sy’n rhesymol ymarferol: ymysg aelwydydd agored i niwed erbyn 2010; ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012; ac i bawb yng Nghymru erbyn 2018.
  6. Mae NEA Cymru wedi cynhyrchu papur byr sy’n amlygu’r ymrwymiadau allweddol yr hoffai’r elusen eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun tlodi tanwydd terfynol i Gymru. Gellir dod o hyd i hwn yma
  7. Cyhoeddwyd Monitor Tlodi Tanwydd diweddaraf y Deyrnas Unedig ym mis Medi 2020. Cyhoeddir yr adroddiad ymchwil blynyddol hwn ar dlodi tanwydd yn y DU ac ym mhob un o’r pedair cenedl gan National Energy Action ac Energy Action Scotland. Mae’n asesu ac yn adolygu polisïau sydd naill ai wedi’u hanelu at neu’n effeithio ar brif ysgogyddion tlodi tanwydd, sef: effeithlonrwydd ynni anheddau domestig, incwm aelwydydd a chost ynni. Eleni, canolbwyntiodd y monitor ar effeithiau COVID-19, gan gynnal ymchwil gyda 73 o sefydliadau unigryw ar draws y diwydiant ynni. Fe nododd fod tri chwarter o sefydliadau rheng flaen ar draws Prydain Fawr yn pryderu am y risg uchel y bydd dyledion tanwydd yn codi y gaeaf hwn o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig, a bod 98% yn gweld risg gymedrol neu uchel y bydd mwy o aelwydydd yn cwtogi ar eu defnydd o ynni gan iddynt gael eu gorfodi i dreulio mwy o amser gartref yn ystod cyfnodau clo.

Related

Posts

Meet the Utilita Energy High 5 Winners

Meet the Utilita Energy High 5 Winners

Posted on 11th Dec 2020
This winter will be difficult for thousands living in fuel poverty – which is why NEA has partnered with Utilita to
Nation / Region: England , Wales
Awards , Campaigns , Energy Efficiency
Read More
Government confirms future of ‘winter lifeline’

Government confirms future of ‘winter lifeline’

Posted on 14th Oct 2020
The UK Government has today confirmed the immediate future of the Warm Home Discount (WHD) energy rebate scheme which was
Nation / Region: England , Northern Ireland , Scotland , UK , Wales
News Release , Warm Home Discount
Read More
Fuel poverty champion recognised in Queen’s Birthday Honours

Fuel poverty champion recognised in Queen’s Birthday Honours

Posted on 10th Oct 2020
Fuel poverty campaigner Maria Wardrobe is celebrating today after it was announced she will receive an OBE in the Queen’
Nation / Region: England , Northern Ireland , Wales
News , News Release
Read More
How to get involved with Fuel Poverty Awareness Day

How to get involved with Fuel Poverty Awareness Day

Posted on 09th Oct 2020
Friday 27 November will mark Fuel Poverty Awareness Day 2020 and we have never needed your support more to get key messages
Nation / Region: England , Northern Ireland , Wales
Campaigns , Fuel Poverty
Read More
Welsh Government releases new plan to end misery of cold homes

Welsh Government releases new plan to end misery of cold homes

Posted on 30th Sep 2020
The Welsh Government has published a consultation on plans to tackle fuel poverty in Wales. NEA Cymru welcomes the opportunity
Nation / Region: Wales
Energy Efficiency , Fuel Poverty , News Release
Read More
Frontline organisations warn of a difficult winter ahead for fuel poor households if urgent action isn’t taken

Frontline organisations warn of a difficult winter ahead for fuel poor households if urgent action isn’t taken

Posted on 19th Sep 2020
A new report released today warns of significant hardship for fuel poor households in the coming winter, as a potent
Nation / Region: England , Northern Ireland , Scotland , UK , Wales
Fuel Poverty , Impacts , Policy & Research
Read More
HOW TO
Get involved
Subscribe
Subscribe
Subscribe to our mailing lists here
Subscribe
Become a Member
Become an NEA Member
To become a member simply click the button below
Become a Member
Sign Up
Support NEA
To support NEA simply click the button below
Support Us
  • Contact
  • Privacy Policy
  • Cookies Policy
  • Terms & Conditions
  • Follow us on Twitter
  • Follow us on Facebook
  • Follow us on YouTube
  • Follow us on LinkedIn
NEA is an independent charity Registration No. 290511.
Registered in England No. 1853927