Mae ystadegau newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a ryddhawyd heddiw yn amlygu graddfa ‘Marw’r Gaeaf’ yng Nghymru
Dyddiad: 27 Tachwedd 2019
Cyswllt: Sarah Wright, NEA. Sarah.wright@nea.org.uk / 0191 269 2942 (allan o oriau – 07884371913).
Mae ffigurau newydd a gynhyrchwyd heddiw [27 Tachwedd] gan y Swydfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn datgelu bod 1,400 o bobl wedi marw yng Nghymru yn ystod gaeaf 2018-19 o’i gymharu â gweddill y flwyddyn. Er bod y ffigurau wedi gostwng, mae’r elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) wedi dweud bod y niferoedd yn parhau i fod yn ‘fathodyn cywilydd blynyddol’.
Dywedodd Prif Weithredwr NEA Cymru,Adam Scorer:
“Mae hyn yn fathodyn cywilydd blynyddol. Mae cartrefi oer yn lladd miloedd o bobl bob gaeaf drwy salwch anadlol a chardio-fasgwlaidd, y ffliw ac mewn nifer fechan o achosion, hypothermia. I’r ‘marw’r gaeaf’ roedd eu catrefi yn elyn. Efallai bod y ffigurau yn llai na’r llynedd ond y rheswm dros hynny oedd y tywydd ac nid gweithredu gan y Llywodraeth”.
Mae’r elusen yn hawlio bod modd priodoli hyd at 30% o’r niferoedd o farwolaethau ychwanegol y gaeaf i effaith cartrefi oer ar y rhai gyda salwch anadlol a chardio-fasgwlaidd. Maen nhw hefyd yn amlygu effaith oerni ar y y cynnydd mewn cwympiadau ac mewn nifer fechan o achosion hyporthermia uniongyrchol. Dywed NEA hefyd bod mwy i hyn nag a welir a bod nifer o bobl yn dioddef iechyd corfforol a meddyliol gwael ar gost sylweddol i’r GIG .
Dywed Scorer:
”Does dim rhaid i bethau fod g fel hyn. Ni fu erioed y fath gyfle i ddelio gyda chartrefi oer a’r epidemig tymhorol. Mae maniffesto’r holl brif bleidiau yn y DU wedi cydnabod bod rhaid inni wella effeithlonrwydd ynni cartrefi os ydym am roi terfyn ar dlodi tanwydd a delio gydag argyfwng hinsawdd. Rhaid i’r llywodraeth nesaf adeiladu ar y cytundeb yma i droi geiriau cynnes yn gartrefi cynnes. Trwy weithredu nawr mae modd achub miloedd o fywydau”.
Mae’r ffigurau wedi cael eu rhyddhau cyn Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ar ddydd Gwener 29 Tachwedd, pan fydd NEA Cymru ac eraill yn amlygu’r her sydd yn wynebu’r rhai mewn cartrefi oer a’r atebion sydd ar gael.
DIWEDD
- Gweithredu Ynni Cenedlaethol ydy’r elusen genedlaethol sydd yn gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gallu byw mewn cartref cynnes. Am ragor o wybodaeth ewch i nea.org.uk.
- Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn diffinio cyfnod y gaeaf o Ragfyr i Mawrth ac mae’n cymharu nifer y marwolaethau yn y cyfnod hwnnw gyda nifer y marwolaethau yn ystod yr Awst i Dachwedd cyn hynny a’r Ebrill i Orffennaf ar ôl hynny. Mae rhagor o wybodaeth yn cynnwys yr ystadegau diweddaraf ar gyfer Gaeaf 2018 ar gael yn https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/birthsdeathsandmarriages/deaths/bulletins/excesswintermortalityinenglandandwales/2018to2019provisionaland2017to2018final
- Mae’r dadansoddiad rhanbarthol ar gael isod. Am fanylion llawn yn cynnwys methodoleg cyfeirer at fwletin ONS.
Marwolawethau ychwanegol y gaeaf 2018-19 – dadansoddiad yn ôl rhanbarth | ||
Enw’r ardal | Marwolaethau ychwanegol y gaeaf | |
Cymru a Lloegr | 23,200 | |
Lloegr | 21,900 | |
North East | 1,300 | |
North West | 2,900 | |
Yorkshire and The Humber | 2,700 | |
East Midlands | 2,100 | |
West Midlands | 2,200 | |
East | 2,700 | |
London | 2,000 | |
South East | 3,500 | |
South West | 2,400 | |
Cymru | 1,400 |
- Dangosir y Marwolaethau Ychwanegol y Gaeaf blynyddol am yr 8 mlynedd diwethaf isod. Nid oes data ar gyfer yr Alban na Gogledd Iwerddon am 2018/19 gan and ydy’r data wedi ei ryddhau. Cyfrifir marwolaethau cynnar y gaeaf oherwydd cartefi oer fel 30% o’r ffigur cyffredinol (Corff Iechyd y Byd, 2011)
Blwyddyn | MCG DU | MCG Cymru a Llooegr | MCG Cymru a Lloegr oherwydd cartrefi oer |
2011/2012 | 25990 | 24,040 | 7212 |
2012/2013 | 33770 | 31,160 | 9348 |
2013/2014 | 19350 | 17,310 | 5193 |
2014/2015 | 48810 | 43,850 | 13155 |
2015/2016 | 28060 | 24,580 | 7374 |
2016/2017 | 38260 | 34,530 | 10359 |
2017/2018 | 56300 | 50,100 | 15030 |
2018/19 | 23,200 | 6960 | |
cyfartaledd 5 mlynedd diweddaraf | 42,858 | 35,252 | 10,576 |
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch gyda Sarah Wright, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd yn NEA sarah.wright@nea.org.uk / 0191 269 2942 (Allan o Oriau – 07884371913).