National Energy Action

Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg

Polisi Iaith Cymraeg NEA Cymru

Mae NEA wedi ymrwymo i hygyrchedd ar bob ffurf. Mae'r cynllun hwn yn cyfeirio'n benodol at yr iaith Gymraeg ac mae materion iaith eraill yn cael eu cynnwys ym Mholisi Cyfle Cyfartal y corff.

Mae NEA Cymru'n cefnogi'r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail cyfartal a'n nod hir dymor yw gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg mor gynhwysfawr ag y bydd ein hadnoddau cyfyngedig yn ei ganiatáu. Rydym yn cydnabod bod galluogi unigolion i gael gafael ar ein gwasanaethau yn eu dewis iaith yn fater o ymarfer da a chydraddoldeb. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn gweithredu darpariaeth Cymraeg i ddefnyddwyr NEA Cymru yng Nghymru.

Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg

Hoffem wahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ein Cynllun Iaith Gymraeg newydd sbon.

Er mwyn bod dewis iaith ein defnyddwyr yn cael ei barchu, mae NEA wedi mabwysiadu'r egwyddor o drin y Saesneg a'r Gymraeg ar sail ei bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Drwy'r cynllun yma dengys sut byddwn yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd.

Paratowyd y cynllun gwirfoddol yma trwy ddilyn Canllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Yn dilyn yr ymgynghoriad gobeithiwn dderbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg

Anfonwch unrhyw sylwadau sydd gennych chi ar y ddogfen bolisi hon i Nuria Zolle

Printed from National Energy Action's web site.
URL: http://http://www.nea.org.uk//ymgynghoriad-ar-gynllun-iaith-gymraeg/
Created: 06/05/2009 11:39am
Edited: 28/05/2009 10:17am