Pwy ydym ni?
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Cysylltwch â NEA Cymru
Pwy ydym ni?
NEA Cymru yw cangen Cymru o NEA (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) prif elusen tlodi tanwydd y DU. Yng Nghymru, fel ag yng ngweddill y DU, rydym yn ymgyrchu dros roi terfyn ar dlodi tanwydd trwy gynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
Yn dilyn ymgynghoriadau gyda rhan ddeiliaid, i gyflawni ein nod rydym wedi dyfeisio yr amcanion canlynol ar gyfer NEA Cymru:
- Gweithio gyda phob cynrychiolydd gwleidyddol i godi ymwybyddiaeth am adnoddau a mesurau angenrheidiol i gael gwared o dlodi tanwydd.
- Datblygu cynghreiriau cryf yn erbyn tlodi tanwydd i wella gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio a sicrhau bod profiadau rhan ddeiliaid yn llywio polisi ac ymarfer
- Datblygu cymwysterau cenedlaethol a rheoli eu gweithrediad i wella safonau gwaith ymarferol ac ansawdd cyngor ynni
- Datblygu prosiectau piblinellau arloesol sydd yn cyfrannu at gael gwared o dlodi tanwydd yng Nghymru a darparu'r sylfaen tystiolaeth i lywio cynllunio a strategaeth ar gyfer Cymru yn ogystal ag enillion ymarferol i'n cymunedau Nôl i'r brig
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Mae Tlodi Tanwydd ar gynnydd yng Nghymru fel yng ngweddill y DG. Yn Hydref 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganfyddiadau ei arolwg Byw yng Nghymru. Roedd yn dangos er bod tlodi tanwydd wedi gostwng yn sylweddol rhwng 1998 a 2004 - o 330,000 i 134,000 o aelwydydd, bod prisiau cynyddol ynni'n golygu bod y nifer o aelwydydd tlawd o ran tanwydd wedi dyblu bron i 240,000 - 250,000, rhwng 2004 a 2006. O'r aelwydydd hyn mae 209,000 yn cael eu cyfri'n "agored i niwed". Mae cynnydd pellach mewn prisiau ynni yn 2008 yn golygu ein bod bellach yn amcangyfrif bod 320,000 o deuluoedd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd.
Y tu ôl i'r diffiniad technegol mae profiadau go iawn o bobl yn byw mewn cartrefi oer a llaith na allant fforddio cynhesu eu cartrefi. Rydym yn clywed hanesion am sawl tad-cu a mam-gu yn rhynnu yn y gaeaf oherwydd eu bod yn gwybod os byddant yn talu eu biliau gwresogi yna ni fyddant yn gallu fforddio prynu anrhegion Nadolig i'w hwyrion a'u hwyresau. Rydym yn clywed hefyd am bobl ifanc sydd yn mynd i ddyledion mawr er mwyn talu eu biliau gwresogi.
Mae rhan hanfodol o waith NEA Cymru yn cynnwys ymgyrchu dros mwy o weithredu ar ran y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod targedau i gael gwared ar dlodi tanwydd erbyn 2018, gyda thargedau dros dro i gael gwared a dlodi tanwydd ymysg grwpiau bregus erbyn 2010 ac mewn tai cymdeithasol erbyn 2012. Mae'r targedau hyn wedi gosod y pwyslais a'r ffocws ar yr angen i gyflwyno cymorth ymarferol i gartrefi incwm isel sydd mewn perygl oherwydd canlyniadau tanwydd tlodi./ Ond mae nifer o anawsterau ymarferol sydd yn effeithio ar gyflawniad y targedau hyn:
- Mae cynnydd diweddar mewn prisiau ynni yn golygu bod y bil ar gyfartaledd ar gyfer cartrefi yng Nghymru dros £1300 erbyn diwedd 2008. Er bod prisiau yn dechrau gostwng ychydig, maent yn debygol o barhau'n uchel. Mae prisiau trydan yng Nghymru fodd bynnag 10% yn uwch nag yn Lloegr.
- Nid oes gan 200,000 o gartrefi fodd o gael nwy o'r prif ffynhonnell ac i filoedd o bobl mae waliau solid yn gwneud insiwleiddio effeithiol yn anodd.
- Mae incwm isel yn gydran mawr o dlodi tanwydd ac er gwaethaf y cynnydd mewn ffyniant economaidd, mae Cymru yn dal i fod ymysg y rhanbarthau tlotaf yn Ewrop.
Mae NEA Cymru yn credu na ddylai pobl, nifer ohonynt yn fregus iawn, orfod wynebu'r dewisiadau amhosibl hyn, sydd yn y pen draw yn effeithio ar iechyd, lles personol ac urddas pobl. Dyna pam yr ydym yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy i bawb. Nôl i'r brig
Cysylltwch â NEA Cymru
Nuria Zolle Cyfarwyddwraig NEA Cymru
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: strategaeth a materion cyhoeddus, Fforymau Tlodi Tanwydd Cymru, Grwp Ymgynghorol Tlodi Tanwydd Cymru, Cynhadledd Tlodi Tanwydd Cenedlaethol
Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg cysylltwch â
Jane Edgington Swyddog hyfforddi a datblygu
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: hyfforddiant, datblygu cymunedol yn cynnwys prosiectau, Cynllun yr Iaith Gymraeg a Rhwydwaith Electronig Gweithredu Tlodi Tanwydd Cymru
Helen Roach Swyddog Datblygu
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: gwaith polisi, datblygu ac ymchwil prosiectau, ymgyrchu, cefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghyrmu a chynrychiolaeth y sector cyhoeddus Nôl i'r brig

