Cwrs Tri Diwrnod Ymwybyddiaeth Ynni City & Guilds 6176
Mae'r cwrs tri diwrnod hwn wedi'i ddylunio ar gyfer pobl sydd eisiau cael dealltwriaeth o, a gwella eu gwybodaeth am effeithlonrwydd ynni domestig. Mae'r cwrs wedi'i anelu tuag at gefnogi'r rhai sydd yn darparu cyngor wyneb yn wyneb ar effeithlonrwydd ynni.
Gall y cwrs arwain at gymhwyster City & Guilds 6176 i'r rhai hynny sydd yn dewis sefyll yr arholiad terfynol pedwar rhan. Daw'r rhai sydd ar y cwrs o amrediad o gyrff yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol, elusennau, cwmnïau cyfleustodau a chymdeithasau tai.
Mae'r cymhwyster 6176 yn cael ei gydnabod gan Gôd Ymarfer Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni ac mae hefyd yn diwallu gofynion gwybodaeth unedau penodol NVQ Lefel 3 Gwasanaethau Darparu Effeithlonrwydd Ynni.
Mae'r cwrs yn paratoi cyfranogwyr i ddelio gydag amrywiol sefyllfaoedd cynghori ac i:
- nodi amrediad o systemau ac offer gwresogi a dŵr poeth sydd mewn cartrefi
- nodi'r mathau a swyddogaethau rheolyddion ar systemau gwresogi a dŵr poeth
- cynghori cleientiaid ar ddefnydd effeithiol a diogel systemau ac offer gwresogi a dŵr poeth
- dehongli data cost tanwydd domestig gan ddefnyddio deunyddiau cyfeirio
- cynghori cleientiaid ar sut i gofnodi defnydd nwy a thrydan a gweithio allan y costau
- hysbysu cleientiaid o'r ffyrdd o dalu am nwy a thrydan
- nodi'r potensial o wella effeithlonrwydd ynni mewn ystod o anheddau
- datgan y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni domestig
- cynghori cleientiaid ar sut i osgoi anweddu a beth i'w wneud pan fo lleithder anwedd yn bodoli.
Rhaid i'r cyfranogwyr feddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, gallu defnyddio cyfrifiannell a gallu cael gafael ar, a dehongli data o dablau sydd ar gael.
Rhagor am hyfforddiant NEA ar draws y DU (Saesneg)
Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn
GWNEUD CARTREFI YN GYNHESACH AC YN IACHACH I FYW YNDDYNT
Cynorthwyo Pobl Hŷn i Gadw'n Gynnes ac Iach y Gaeaf Hwn
Cwrs Ymwybyddiaeth Effeithlonrwydd Ynni Undydd
Rydym yn cynnig y cwrs hwn i unrhyw un sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl hŷn ac sydd yn gallu trosglwyddo cyngor a gwybodaeth, er enghraifft trwy grwpiau cymunedol lleol, cyrff gwirfoddol, Cymdeithasau Preswylwyr a Thenantiaid, Grwpiau Gofal, Swyddogion Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai, Grwpiau Gweithredu Anabledd.
Am ragor o wybodaeth am yr hyfforddiant uchod cysylltwch â:
Jane Edgington jane.Edgington@nea.org.uk Ffôn: 01490413223/ 07730519207
Nôl i'r brig
Ymwybyddiaeth Ynni i Bobl Iechyd Proffesiynol
Ydy'ch cleientiaid yn byw mewn tai llaith ac oer? Yna efallai bod y cwrs hwn yn addas i chi. Mae wedi'i ddylunio i roi gorolwg gweithredol ar y prif bynciau wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd; mae'n cynnwys pynciau fel;
- Effaith tlodi tanwydd yng Nghymru
- Lleithder a Salwch
- Gwresogi ac atal colli gwres
- Cyllido a Chyllidebu ar gyfer tanwydd
Mae'r cwrs hefyd yn amlygu'r cymorth sydd ar gael yn lleol, sut i gysylltu gyda'r asiantaethau hynny a sut i gyfeirio pobl am ragor o gyngor. Gellir cyflwyno'r cwrs yn lleol o leoliad hyfforddi addas.
Am ragor o wybodaeth am yr hyfforddiant uchod cysylltwch â:
Jane Edgington jane.Edgington@nea.org.uk Ffôn: 01490413223/ 07730519207
Sesiynau Ymwybyddiaeth Effeithlonrwydd Ynni i Gymunedau'n Gyntaf
Gostwng eich Biliau Ynni
Sesiwn ddwy awr yw'r sesiwn ymwybyddiaeth hon a gynigir am ddim i ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf. Mae'r sesiwn yn anffurfiol iawn ac mae wedi'i dylunio mewn partneriaeth gydag Ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf i helpu i ddiwallu anghenion penodol cymunedau/unigolion. Y nod yw hysbysu aelodau o'r gymuned am y cyngor a'r adnoddau sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ei nod hefyd yw gwella eu dealltwriaeth o effeithlonrwydd ynni a chynghorion ar arbed arian.
Am ragor o wybodaeth am yr hyfforddiant uchod cysylltwch â:
Jane Edgington jane.Edgington@nea.org.uk Ffôn: 01490413223/ 07730519207

