GWOBR GYNTAF
Menter Cwm Gwendraeth
"Codi Ymwybyddiaeth ymysg Pensiynwyr yn y Gwendraeth"
Bydd y prosiect hwn yn cefnogi'r Swyddog Cymunedau Carbon Sero i redeg ymgyrch gwybodaeth ymwybyddiaeth ar effeithlonrwydd ynni a'i effaith ar dlodi tanwydd i bensiynwyr yn ardal y Gwendraeth er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf. Bydd y swyddog yn defnyddio'r wasg a'r cyfryngau lleol a bydd hefyd yn ymweld â grwpiau cymdeithasol pobl hŷn gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei gyflwyno'n lleol trwy gyfrwng yr iaith y mae'r pensiynwyr yn fwyaf cyfforddus i'w defnyddio. Agwedd olaf y prosiect yw cynhyrchu a dosbarthu llyfryn gwybodaeth i roi persbectif lleol ar sialensau tlodi tanwydd.
AIL WOBR
Cymunedau'n Gyntaf, Thornhill
"Hyrwyddwyr cymunedol i annog pobl i gael cymorth"
Bydd y prosiect hwn yn enwi unigolion sydd wedi derbyn cyngor ar fudd-daliadau i weithredu fel hyrwyddwyr cymunedol. Bydd yr hyrwyddwyr yn defnyddio'u profiad cadarnhaol i annog ffrindiau a chymdogion i ddefnyddio'r gwasanaeth a byddant yn gweithredu fel unigolion cyfeillgar y gellir ymddiried ynddynt sydd yn gallu ‘dal dwylo' ffrindiau a chymdogion, all fod yn fregus, trwy'r broses. Bydd yr hyrwyddwyr cymunedol yn allweddol o ran defnyddio'u gwybodaeth am y gymuned i sicrhau bod pobl fregus a rhai sydd yn gaeth i'r tŷ yn cael cymorth i gael gafael ar y gwasanaeth. Er na fyddant yn rhoi cyngor bydd yr hyrwyddwyr yn derbyn hyfforddiant i wella eu sgiliau ar gyllidebu cartref; bydd hyn hefyd yn gwella lefel eu sgiliau a'u cyflogadwyaeth. Bydd y prosiect hefyd yn cysylltu gyda'r Gronfa Gwarant Benthyg Drama sydd yn gwarantu benthyciadau Undebau Credyd a gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer costau yn berthynol i dai.
TRYDEDD WOBR
Canolfan Eco Gorllewin Cymru
"Bws Teithiol Cadw'n Iach y Gaeaf Hwn"
Bydd Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych, Canolfan Gynghori ar Ynni Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru yn teithio gyda'r bws Gwasanaeth Pensiwn arbennig hwn o gwmpas amrywiol leoliadau yn Sir Ddinbych i dargedu pensiynwyr gyda chyngor ac arweiniad ar gyflawni gwres fforddiadwy, effeithlonrwydd ynni, hawl i fudd-daliadau a gwasanaethau eraill. Gellir gwneud cyfeiriadau grant a cheisiadau am fudd-daliadau yn y fan a'r lle. Bydd y prosiect yn ceisio creu cyhoeddusrwydd cyn mynd ar daith gan rannu rhoddion yn berthynol i ynni er mwyn denu diddordeb.
Mae Teimlo'r Gwres 2 yn dilyn llwyddiant Teimlo'r Gwres 2008 a bydd yn uniongyrchol yn cefnogi Ymrwymiad Tlodi Tanwydd Llywodraeth y Cynulliad trwy ddarparu cymorth grant i fentrau lleol sydd yn darparu atebion i dlodi tanwydd wedi'i dargedu at grwpiau bregus. Wrth wneud hynny bydd yn amlygu enghreifftiau o ymarfer da a gyflawnir gan awdurdodau lleol, asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol, asiantaethau gwirfoddol a statudol a grwpiau cymunedol.
Bydd SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gefnogi'r cynllun ond bydd eaga yn noddwr newydd ychwanegol eleni. Bydd angen i brosiectau sydd yn gwneud cais am y gwobrwyon ddangos cyflawniad mewn un o'r meysydd canlynol:
• Datblygu atebion cynaliadwy i gynhesrwydd fforddiadwy i grwpiau bregus mewn ardaloedd gwledig
• Cyflwyno neu ddatblygu gwasanaethau cynghori cydgysylltiedig wedi'u teilwra i grwpiau anodd i'w cyrraedd
• Penodi hyrwyddwyr cymunedol tlodi tanwydd/ynni mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf.
Bydd un corff/partneriaeth llwyddiannus yn derbyn gwobr o £4000 a bydd yr ail a'r trydydd yn derbyn gwobrau o £2000 a £1000 i helpu i gyflwyno neu i ddatblygu eu menter rhwng Mehefin a Rhagfyr 2009.
Am fwy o wybodaeth ar Teimlo' r Gwres 2 cysylltwch a claire.henderson@nea.org.uk
Cliciwch yma Ydych chi'n Teimlo'r Gwres?
Cefnogir gan
| | |

