Trobwynt yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd yng Nghymru
Rydym o’r farn na ddylai unrhyw un yng Nghymru orfod byw mewn cartref oer. Dyna pam yr ydym wedi cyfuno gyda sefydliadau allweddol yng Nghymru i ffurfio cynghrair ac wedi datblygu siarter tlodi tanwydd, er mwyn amlygu’r camau brys yr ydym ni’n ei gredu sydd eu hangen i gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
Rydym yn galw am:
- Gynllun gweithredu manwl sy’n nodi sut a pha bryd y gwaredir tlodi tanwydd yng Nghymru
- Cynorthwyo pob aelwyd tlodi tanwydd i aros yn gynnes – hyd y bydd tlodi tanwydd wedi ei waredu
- Ymagwedd gydgysylltiol ac unedig ar draws y sector statudol (ar lefel Cymru a’r DU) sy’n cynnwys partneriaid o’r sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymeradwyo’r siarter ac i weithredu blaenoriaethau’r polisi y mae’n ei gyflwyno fel pecyn cynhwysfawr er mwyn i bob aelwyd yng Nghymru elwa ar gysur cartref cynnes. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio strategaeth tlodi tanwydd newydd i Gymru, a byddai’r gynghrair yn hoffi gweld y galwadau a amlinellir gennym yn ein siarter yn cael eu cynnwys yn y strategaeth hon.
Arweinir y gynghrair tlodi tanwydd gan Lais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru, ac fe’i cefnogir gan grwp llywio sy’n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol yng Nghymru sy’n gweithio i ddatblygu’r agenda tlodi tanwydd. Mae’r rhain yn cynnwys: Cyngor ar Bopeth Cymru, Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Plant yng Nghymru, Ecoganolfan Gorllewin Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Oxfam Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, NEA Cymru a Llais Defnyddwyr Cymru.
Am mwy o wybodaeth, ymweld â: www.fuelpovertycharterwales.org.uk
