National Energy Action

Prosiectau

 

Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy

Mae NEA Cymru wedi gweithio gyda'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu cynhesrwydd fforddiadwy i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn eu hardaloedd lleol.

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynhyrchu dalen adnoddau ar dlodi tanwydd i awdurdodau lleol, fel rhan o'r Fframwaith Datblygu Cynaliadwy.  Cliciwch yma i lawr lwytho'r ddalen adnoddau.

Mae'r Gwres Ymlaen

Logo 

Rhoddodd y prosiect Mae'r Gwres Ymlaen gefnogaeth i Bwyllgorau Craffu a Swyddogion yn y ddau awdurdod lleol peilot, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Dinas Casnewydd, i godi proffil tlodi tanwydd, i gynorthwyo i flaenoriaethu gweithredu ar gyflawni cynhesrwydd fforddiadwy ac i ddatblygu rolau aelodau yn y maes hwn. Ar yr un pryd, sefydlwyd grŵp llywio cenedlaethol. Roedd hyn yn fodd o rannu profiadau fel bod y ddau awdurdod lleol yn gallu elwa oddi wrth bersbectifau cenedlaethol ac fel bod y cyrff cenedlaethol yn gallu llywio eu penderfyniadau llunio polisi cenedlaethol yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau craffu.

Cyllidwyd y prosiect gan SWALEC/Scottish and Southern Energy ac fe'i cefnogwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad y prosiect

                                                                         

Curo'r Oerni

Mae canllaw newydd wedi'i gynhyrchu i helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd. Mae ‘Curo'r Oerni' a gyhoeddwyd gan NEA Cymru (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) yn dwy ynghyd brofiadau'r 22 awdurdod lleol a chyrff sydd yn bartneriaid i ddarparu canllaw i'r hyn sydd yn gweithio orau wrth fynd i'r afael thlodi tanwydd. Mae'r canllaw, sydd wedi'i gyllido gan SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad yn darparu enghreifftiau o sut y mae cymunedau'n cynorthwyo i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd yn lleol fel y gall cyrff lleol sydd yn gweithio mewn ardaloedd eraill eu hefelychu a dysgu oddi wrth brosiectau llwyddiannus a helpu rhagor o bobl. Dangosir effeithiau'r prosiectau hyn gyda dyfyniadau real ac enghreifftiau gan y rhai sydd yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn lleol.

Bydd ‘Curo'r Oerni' ar gael i bob awdurdod lleol a chyrff eraill yng Nghymru ac fe'i defnyddir i lywio'r Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy ac i helpu awdurdodau lleol a'r cyrff sydd yn bartneriaid iddynt i adnabod a helpu cartrefi sydd yn dioddef tlodi tanwydd. Cliciwch yma

Nôl i'r brig

Rhaglen Ymgynghoriaeth Ynni Cefn Gwlad Cymru

Mae Rhaglen Ymgynghoriaeth Ynni Cefn Gwlad Cymru wedi’i hanelu’n unig at gymunedau ar draws Cymru nad ydynt ar y grid.  Bydd y rhaglen yn rhoi cyngor a gwybodaeth annibynnol ymarferol i drigolion am ddewisiadau ynni, technolegau ynni effeithiol a mesurau i ostwng carbon. Bydd yn cynorthwyo cartref unigol i ganolbwyntio ar leihau eu defnydd o ynni a chostau tanwydd a hefyd annog cymunedau lleol i weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo ymarfer gorau mewn effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon.  Cefnogir y prosiect gan Calor Gas. 

Cliciwch yma i ddarllen y ‘Pecyn cynghori ar ynni ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y prif rwydwaith’
Printed from National Energy Action's web site.
URL: http://http://www.nea.org.uk//projects-cymru/
Created: 19/02/2009 4:58pm
Edited: 07/04/2011 8:51am