Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy
Mae NEA Cymru wedi gweithio gyda'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu cynhesrwydd fforddiadwy i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn eu hardaloedd lleol.
Mae'r Gwres Ymlaen
Rhoddodd y prosiect Mae'r Gwres Ymlaen gefnogaeth i Bwyllgorau Craffu a Swyddogion yn y ddau awdurdod lleol peilot, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Dinas Casnewydd, i godi proffil tlodi tanwydd, i gynorthwyo i flaenoriaethu gweithredu ar gyflawni cynhesrwydd fforddiadwy ac i ddatblygu rolau aelodau yn y maes hwn. Ar yr un pryd, sefydlwyd grŵp llywio cenedlaethol. Roedd hyn yn fodd o rannu profiadau fel bod y ddau awdurdod lleol yn gallu elwa oddi wrth bersbectifau cenedlaethol ac fel bod y cyrff cenedlaethol yn gallu llywio eu penderfyniadau llunio polisi cenedlaethol yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau craffu.
Cyllidwyd y prosiect gan SWALEC/Scottish and Southern Energy ac fe'i cefnogwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth y Cynulliad.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad y prosiect
Curo'r Oerni
Mae canllaw newydd wedi'i gynhyrchu i helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd. Mae ‘Curo'r Oerni' a gyhoeddwyd gan NEA Cymru (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) yn dwy ynghyd brofiadau'r 22 awdurdod lleol a chyrff sydd yn bartneriaid i ddarparu canllaw i'r hyn sydd yn gweithio orau wrth fynd i'r afael thlodi tanwydd. Mae'r canllaw, sydd wedi'i gyllido gan SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad yn darparu enghreifftiau o sut y mae cymunedau'n cynorthwyo i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd yn lleol fel y gall cyrff lleol sydd yn gweithio mewn ardaloedd eraill eu hefelychu a dysgu oddi wrth brosiectau llwyddiannus a helpu rhagor o bobl. Dangosir effeithiau'r prosiectau hyn gyda dyfyniadau real ac enghreifftiau gan y rhai sydd yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn lleol.
Bydd ‘Curo'r Oerni' ar gael i bob awdurdod lleol a chyrff eraill yng Nghymru ac fe'i defnyddir i lywio'r Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy ac i helpu awdurdodau lleol a'r cyrff sydd yn bartneriaid iddynt i adnabod a helpu cartrefi sydd yn dioddef tlodi tanwydd. Cliciwch yma
