Grŵp Traws Bleidiol ar Dlodi Tanwydd
Problem Tlodi Tanwydd
Mae cartref cynnes a sych yn anghenraid bywyd, ond yn un y mae'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru yn cael trafferth i'w gyflawni. Maent yn gwario canran uchel o'u hincwm cyfyngedig ar danwydd ond maent yn parhau i orfod dewis rhwng cartrefi oer neu filiau tanwydd na allant eu fforddio.
Y prif reswm yw fod llawer gormod o gartrefi wedi'u hinsiwleiddio'n wael gyda systemau gwresogi aneconomaidd ac aneffeithiol. Canlyniad hynny yw tlodi tanwydd, sydd yn esgor ar ddioddefaint, salwch a marwolaethau cynnar - mae cyfraddau marwolaethau yn ystod y gaeaf yn llawer uwch yn y Deyrnas Unedig nag mewn gwledydd eraill gyda hinsawdd oerach.
Rôl y Grŵp Traws Bleidiol Cymreig ar Dlodi Tanwydd
Sefydlwyd y Grŵp Traws Bleidiol Cymreig ar Dlodi Tanwydd ym mis Chwefror 2009 i godi ymwybyddiaeth o broblem tlodi tanwydd a'r polisïau fydd yn cael gwared ohono trwy;
cynnal ymwybyddiaeth yn y Senedd o broblem tlodi tanwydd a'r polisïau sydd eu hangen i gael gwared ohono;
ymchwilio i'r cyfraniad sydd ei angen gan Lywodraeth, awdurdodau lleol, landlordiaid, y sector gwirfoddol a'r diwydiant ynni i alluogi pobl ar incwm isel i gadw'n gynnes am bris y gallant ei fforddio;
monitro effaith Strategaeth Tlodi Tanwydd y Llywodraeth a'r prif fentrau y mae wedi'u sefydlu i gyflwyno'r strategaeth;
odi unrhyw newidiadau sydd eu hangen i ddeddfwriaeth neu fframweithiau rheoleiddiol i sicrhau bod tlodi tanwydd wedi'i ddileu yng Nghymru erbyn 2018; a
lle y nodir unrhyw fylchau o'r fath, ceisio mynd i'r afael â'r rhain trwy'r dewisiadau seneddol mwyaf priodol ac ymarferol.
Swyddogion y Grŵp
- Mark Isherwood AC (Cadeirydd)
- Mike Bates AC
- Dai Lloyd AC
- Nick Bourne AC
- Janet Ryder AC
- Alun Davies AC
Amserlen y Cyfarfodydd ar gyfer 2009
Mercher 20 Mai (8.15 am-9.15 am)
Mercher 23 Medi (8.15 am- 9.15 am)
Cyswllt
Mae'r Grŵp yn cael ei hwyluso ar y cyd mewn partneriaeth gyda Llais Defnyddwyr Cymru. Os hoffech wybod rhagor cysylltwch gyda Nuria Zolle Cyfarwyddwraig NEA Cymru, neu gyda Prif Eriolwr Polisi, Liz Withers.
Cofnodion Gweithgor Tlodi Tanwydd Traws Bleidiol 3 Chwefror 2009
Cofnodion Gweithgor Tlodi Tanwydd Traws Bleidiol 20 Mai 2009
Cofnodion Gweithgor Tlodi Tanwydd Traws Bleidiol 23 Medi 2009
Cofnodion Gweithgor Tlodi Tanwydd Traws Bleidiol 3/2/2010
Gweithredu ar Diodi Tanwydd
Rydym yn galw ar Aelodau'r Cynulliad i helpu i gynyddu'r gweithredu ar dlodi tanwydd a chefnogi ein galwad am:
- Targedau newydd wedi'u mireinio ar gyfer cael gwared o dlodi tanwydd ymysg grwpiau bregus
- Tasglu Tlodi Tanwydd Gweinidogol traws bleidiol newydd
- Rôl fwy i awdurdodau lleol i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd
- Gwell mynediad i dechnoleg meicro-gynhyrchu a thechnoleg adnewyddadwy arall
- Uno cynlluniau gwneud y mwyaf o incwm gyda chyngor ar effeithlonrwydd ynni
- Gweithredu i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran deg o gyllid cyflenwyr ynni
- Mwy o gefnogaeth i ymagweddau cymunedol yng Nghymru
- Ymestyn Taliadau Tanwydd Gaeaf
- Tariffiau cymdeithasol gorfodol
- Un cynllun effeithlonrwydd ynni cenedlaethol
Cliciwch yma ar gyfer manylion ein gofynion polisi
Ymateb i Ymgynghoriadau
- Strategaeth Tlodi Tanwydd 4/1/2010
- Cymru'n Un:Cenedl un Blaned 04/02/09
- Swyddi Gwyrdd i Gymru 20/2/09
- Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni 05 June 09
- Ymateb i Ymgynghoriad ar Gynllunio Iechyd Gwledig 19/08/09
Ymatebion eraill (Saesneg)
Papur Briffio Ethaliadol 2007-2011

Gwahoddodd NEA Cymru lefarwyr cyfiawnder cymdeithasol pob un o’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ymateb i gwestiynau ar dlodi tanwydd.
Mae’r papur briffio etholiadol hwn yn cyflwyno eu safbwyntiau polisi wrth ochr maniffesto’r NEA.
Ymgyrch Cartrefi Cynnes -

Cychwynnodd yr Ymgyrch Cartrefi Cynnes (Wythnos Cartrefi Cynnes gynt) yn 1991 fel ffordd o godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol o effaith mawr tlodi tanwydd. Nod yr ymgyrch yw hybu mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni er mwyn lleihau tlodi tanwydd a rhoi gwybod i'r cyhoedd bod help ar gael i aelwydydd incwm isel ar ffurf grant.
Un o amcanion allweddol yr ymgyrch yw addysgu Aelodau Seneddol (AS), Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) ac eraill sy'n gwneud penderfyniadau ynglÅ·n â'r problemau iechyd sy'n cael eu creu o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer a thamp a'r buddiannau y gall cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ei olygu.
Yn ystod Tachwedd- Rhagfyr 2008 cymerodd 5 AC ran yn yr ymgyrch yng Nghymru a threfnwyd sawl digwyddiad yn ystod yr ymgyrch i ddwyn sylw'r cyhoedd at brosiectau blaengar ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol i helpu cael gwared â'r broblem o dlodi tanwydd.
- Andrew Davies AC
- Mark Isherwood AC
- Ieuan Wyn Jones AC
- Jane Davidson AC
- Mick Bates AC
Trefnwyd Ymgyrch Cartrefi Cynnes 2008 mewn cydweithrediad gyda eaga a chaiff gefnogaeth gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd yng Nghymru a Lloegr. Mae NEA yn cydnabod y gefnogaeth weithredol a gaiff gan y reolwyr cynlluniau HEES, eaga, wrth bennu'r cleientiaid a gafodd ymweliad gan yr AC.
