

Y Gweinidog yn croesawu canllaw newydd ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru
Mae canllaw newydd wedi’i gynhyrchu i helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn tlodi tanwydd. Mae ‘Curo’r Oerni’ a gyhoeddwyd gan NEA Cymru (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) yn dwy ynghyd brofiadau’r 22 awdurdod lleol a chyrff sydd yn bartneriaid i ddarparu canllaw i’r hyn sydd yn gweithio orau wrth fynd i’r afael thlodi tanwydd. Mae’r canllaw, sydd wedi’i gyllido gan SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad yn darparu enghreifftiau o sut y mae cymunedau’n cynorthwyo i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd yn lleol fel y gall cyrff lleol sydd yn gweithio mewn ardaloedd eraill eu hefelychu a dysgu oddi wrth brosiectau llwyddiannus a helpu rhagor o bobl. Dangosir effeithiau’r prosiectau hyn gyda dyfyniadau real ac enghreifftiau gan y rhai sydd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn lleol.
Bydd ‘Curo’r Oerni’ ar gael i bob awdurdod lleol a chyrff eraill yng Nghymru ac fe’i defnyddir i lywio’r Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy ac i helpu awdurdodau lleol a’r cyrff sydd yn bartneriaid iddynt i adnabod a helpu cartrefi sydd yn dioddef tlodi tanwydd. Cliciwch yma
Tlodi tanwydd a Llywodraeth Leol
Dydd Iau 2 Hydref 2008 Y Deml Heddwch, Caerdydd
Y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae yn y frwydr yn erbyn tlodi
tanwydd
Mae cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, ynghyd ag incwm is na’r cyfartaledd a thai gydag insiwleiddio gwael wedi golygu bod y nifer o gartrefi yng Nghymru sydd yn dioddef tlodi tanwydd wedi mwy na dyblu yn y blynyddoedd diweddar. Gyda chynnydd mewn prisiau ynni wedi’i ragweld mae angen brys am weithredu i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol hon.
Mae llywodraeth leol a rhan ddeiliaid lleol yn chwarae rhan hanfodol mewn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae Cynghorau yn cyflwyno amrediad eang o bolisïau a gwasanaethau sydd yn gysylltiedig gyda thlodi tanwydd yn cynnwys datblygu cynaliadwy, tai, effeithlonrwydd ynni, yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithio’n agos gyda Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru i ddatblygu Cynlluniau Cynhesrwydd Fforddiadwy i helpu i yrru gweithredu ar lefel leol. Ym mis Rhagfyr 2006 cynhaliodd NEA Cymru gynhadledd oedd yn helpu i lywio Curo’r Oerni: Canllaw i Weithredu Lleol. Mae’r canllaw yn cynnwys syniadau ac enghreifftiau o ymarfer gorau a gasglwyd yn y digwyddiad.
Bydd y gweithdy hwn yn darparu llwyfan i drafod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae
mewn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a bydd yn cymryd i ystyriaeth y farchnad ynni gyfredol,
adolygiad o’r Ddeddf Cadwraeth Ynni Cartref, cyflwyniad Byrddau Gwasanaeth Lleol a sut y
gellir llunio strategaethau a chynlluniau allweddol i helpu i ddarganfod atebion lleol i dlodi
tanwydd. Bydd canlyniadau’r trafodaethau yn bwydo i adolygiad y Gweinidog o’r
Strategaeth Tlodi Tanwydd a datblygiad Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni Llywodraeth y Cynulliad.
Byddwn hefyd yn rhannu gyda rhan ddeiliaid ein prosiect Arweinyddiaeth Cymuned newydd a ddatblygwyd gyda chefnogaeth ariannol gan SWALEC ac arweiniad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r prosiect hwn y cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r nod yw gweithio gyda dau Bwyllgor Craffu i weithredu adolygiad craffu ar dlodi tanwydd. Mae Pwyllgorau Craffu yn darparu cyfle ardderchog i sicrhau bod y gweithrediadau sydd yn gynwysiedig yng Nghynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy Awdurdodau Lleol yn cael eu gweithredu a bod ymarfer da yn cael ei ddatblygu.
Canlyniadau Disgwyliedig
Trafod gyrrwyr a rhwystrau polisi
Amlygu atebion arloesol a nodi adnoddau
Darganfod rhagor am y prosiect Arweinyddiaeth Cymunedol newydd sy’n cael ei
ddatblygu yng Nghymru
tracy.norris@nea.org.uk erbyn dydd Mercher 17 Medi.
Wyneb newydd yn NEA
Mae Helen Roach wedi ymuno ag NEA Cymru yn ddiweddar yn y swydd newydd o Swyddog Datblygu. Cyn hyn bu’n gweithio fel Cydlynydd Cenedlaethol i ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad, Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn, wedi’i leoli yn Cyngor yr Henoed..
Dywedodd Helen Roach, “Tra’n cydlynu’r ymgyrch Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn, dysgais am effaith cartrefi wedi’u gwresogi’n wael ar fywydau pobl fregus, ac mae hyn wedi tanio fy mrwdfrydedd dros y pwnc ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio fel rhan o NEA Cymru i helpu a herio’r llywodraeth i gwrdd â’i dargedau i gael gwared o dlodi tanwydd.”
Bydd meysydd gwaith allweddol Helen gyda NEA Cymru yn cynnwys gwaith polisi, datblygu prosiectau ac ymchwilio, ymgyrchu a chefnogi cyrff cyhoeddus a chynrychiolaeth y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd Helen wedi’i lleol yn y Deml Heddwch yn Nghaerdydd a gellir cysylltu â hi ar Helen.roach@nea.org.uk neu 029 2064 4520.
Mae’n ymuno â’r Gyfarwyddwraig Nuria Zolle a’r Swyddog Hyfforddi a Datblygu Jane Edgington yn NEA Cymru.
Ymateb i Ymgynghoriadau
1 Ymateb i Ymgynghoriad Cymunedau Nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Archwiliad Marchnadoedd Cyflenwi Ynni – Cymru
5 Map Llwybr Ynni Adnewyddol i Gymru
6. Cyflwyniad i Gynllun Iechyd Gwledig Cymru
2008 Cynllun Gwobrwyo Teimlo’r Gwres
Mae mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn hanfodol wrth i brisiau ynni godi
Mae helpu pobl i dalu eu biliau tanwydd yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni yn hanfodol meddai Jane Davidson y Gweinidog Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai wrth gynhadledd a drefnwyd gan elusen tlodi tanwydd amlwg.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad ei bod yn benderfynol i wneud popeth y gallai i helpu i wneud tanwydd yn fwy fforddiadwy i’r rhai sydd yn ei chael yn fwyaf anodd i dalu biliau tanwydd cynyddol.
Dywedodd Jane Davidson: “Rwyf yn hapus iawn i gefnogi’r Gwobrau Teimlo’r Gwres. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl fregus ar incwm isel i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i yrru hyn ymlaen ac mae cydnabod ymarfer da yn bwysig iawn.”
Noddir y cynllun gwobr gan SWALEC ac mae’n cael ei redeg gan yr elusen tlodi tanwydd amlwg yng Nghymru, NEA Cymru a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Dilynnwch y linc yma i'r enillwyr y gwobrau
Dywedodd Nuria Zolle, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: “Mae tlodi tanwydd yn y DU, yn cynnwys Cymru, wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yn bennaf y cynnydd mewn prisiau tanwydd. Mae angen ymrwymiad gan y Llywodraeth, gweithgarwch gan gyflenwyr ynni, ymgyrchu gan elusennau ac arloesi gan asiantaethau i newid y cynnydd hwn ac mae gennym enghreifftiau ardderchog o wahanol fentrau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y cynllun gwobr hwn.
“Bydd y cyllido ychwanegol yn cefnogi gweithredu i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli a buddsoddi mewn atebion arloesol sydd yn helpu i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf i’w cymunedau. Mae asiantaethau lleol ar y blaen gyda’r gwaith o ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi bregus ac mae’r cynllun gwobr hwn yn helpu’r cyrff hynny. Rydym yn ddiolchgar i SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad am gefnogi’r cynllun gwobr hwn a gobeithio y bydd yn ein helpu i gasglu tystiolaeth am y math o gyllido sydd ei angen yng Nghymru.”
Dywedodd Andrew Lloyd, rheolwr Prosiect Ynni Effeithlonrwydd SWALEC: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi NEA gyda’i fforwm a’r cynllun gwobr Teimlo’r Gwres. Mae SWALEC eisiau gallu helpu cartrefi i arbed arian ar eu biliau gwresogi fel nad oes neb yn byw mewn cartref oer; mae cefnogi cynllun gwobr Teimlo’r Gwres NEA Cymru yn un ffordd y gall SWALEC weld bod hyn yn digwydd.”

Fforymau Tlodi Tanwydd Gogledd a De Cymru
Mae NEA Cymru yn cynnal Fforymau Tlodi Tanwydd yng Ngogledd a De Cymru. Mae’r cyfarfodydd wedi’u hanelu at lunwyr polisi strategol, darparwyr gwasanaeth a grwpiau cymunedol yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb sydd eisiau cael gwared o dlodi tanwydd yn eu cymunedau.
Fforwm Tlodi Tanwydd De Cymru Tachwedd 12fed 2008 
Welsh Centre for International Affairs, Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP
Ffôn 029 2064 4520/ 07525 323405
Fforwm Tlodi Tanwydd Gogledd Cymru Tachwedd 19fed 2008
Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, FFordd Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SW
Noddir gan SCOTTISH POWER
2007 DIGWYDDIADAU’R GORFFENNOL Twymo Lan: Gweithdai Gweithredu Ymgynghorol
4ydd Rhagfyr 2007 Llandrindod
Bu Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai a Dr Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad BEVAN yn annerch y gweithdy ymgynghorol hwn. Roedd y gweithdy’n helpu i ganfod y math o weithredu sydd ei angen ar lefel gymunedol er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Hyd yn hyn, gwelwyd cynnydd wrth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy yn y 22 ardal awdurdod lleol ar draws Cymru ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cytuno neu’n agos at gytuno ar eu cynlluniau. Fe helpodd y gweithdy ni i ganfod sut i adeiladu ar y cynnydd hwn trwy ystyried beth sy’n gweithio a beth arall sydd angen ei wneud wrth symud ymlaen o’r cam datblygu cynlluniau i gyflawni gweithredu sy’n helpu i wneud gwahaniaeth i aelwydydd mewn tlodi tanwydd.
Roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai cyfranogol wedi eu cynllunio i ganfod esiamplau o arfer da – y prosiectau, partneriaethau a strategaethau effeithiol – sy’n ddiamau’n bodoli yng Nghymru. Gofynnwyd i gyfranogwyr hefyd ganfod pa gefnogaeth bellach sydd ei angen yn y dyfodol, a pha gyfleoedd sy’n bodoli i helpu troi cynlluniau’n weithredoedd.
Yn ystod y digwyddiad cafwyd gwybodaeth am ddatblygiad canllaw arfer da ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid, sy’n cael ei ddatblygu gan NEA Cymru ar hyn o bryd.
Gwybodaeth canllaw gweithredu i ddilyn yn Gwanwyn 2008.
Ymgyrch Cartrefi Cynnes –
Cychwynnodd yr Ymgyrch Cartrefi Cynnes (Wythnos Cartrefi Cynnes gynt) yn 1991 fel ffordd o godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol o effaith mawr tlodi tanwydd. Nod yr ymgyrch yw hybu mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni er mwyn lleihau tlodi tanwydd a rhoi gwybod i’r cyhoedd bod help ar gael i aelwydydd incwm isel ar ffurf grant.
Un o amcanion allweddol yr ymgyrch yw addysgu Aelodau Seneddol (AS), Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau ynglÅ·n â’r problemau iechyd sy’n cael eu creu o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer a thamp a’r buddiannau y gall cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ei olygu.
Yn ystod Tachwedd- Rhagfyr 2007 cymerodd 1 AS a 6 AC ran yn yr ymgyrch yng Nghymru a threfnwyd sawl digwyddiad yn ystod yr ymgyrch i ddwyn sylw’r cyhoedd at brosiectau blaengar ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol i helpu cael gwared â’r broblem o dlodi tanwydd.
Trefnwyd Ymgyrch Cartrefi Cynnes 2007 mewn cydweithrediad gyda eaga a chaiff gefnogaeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yng Nghymru a Lloegr. Mae NEA yn cydnabod y gefnogaeth weithredol a gaiff gan y reolwyr cynlluniau Warm Front a HEES ac eaga wrth bennu’r cleientiaid a gafodd ymweliad gan yr AS ac AC.
- Jane Davidson AC
- Nick Ainger AS
- Bethan Jenkins AC
- Alun Cairns AC
- Mick Bates AC - http://tinyurl.com/25qybe
- Sandie Mewies AC
- Dr Brian Gibbons AC
Yn ystod yr ymgyrch eleni enillodd Tîm Hawliau Lles Castell Nedd a Phort Talbot £500 gan NEA i drefnu digwyddiad gwneud y gorau o incwm ar gyfer teuluoedd gyda phlant- gwyliwch y gofod hwn ac efallai mai chi fydd nesaf!
Trechu’r Oerfel: Gweithredu i gael gwared â thlodi tanwydd yng Nghymru.
Mae adroddiad ar ganfyddiadau cynhadledd National Energy Action Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Marriot, Caerdydd ar y 27ain Mehefin 2007, ar gael i’w lawr lwytho. Ymysg y siaradwyr allweddol oedd Ms Sugar (Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru), Dr Rogers (Cyfarwyddwr GIG), Ms Whittaker (Cyfarwyddwr Tai yn Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol), Mr. Benfield (Prif Weithredwr CGGC) a Mr. Dimblebee (Partner Ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru).
Mae’r adroddiad hwn yn darparu crynodeb byr o’r trafodaethau llawn ac yn cofnodi sylwedd y trafodaethau yn y gweithdai (a hwyluswyd gan aelodau o grwpiau pobl ifanc a rhwydweithiau pobl hÅ·n) sy’n pwysleisio’r meysydd ar gyfer gweithgaredd yn y dyfodol a syniadau ar gyfer gweithredu. Cliciwch yma

AROLWG BYW YNG NGHYMRU
Ym mis Hydref 2007 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei adroddiad Byw yng Nghymru, oedd yn cadarnhau ein hofnau gwaethaf. O 2001-2006 mae prisiau cynyddol ynni wedi golygu bod y nifer o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru bron wedi dyblu i bron i chwarter miliwn o aelwydydd!
Edrychwch ar yr adroddiad llawn:
Am wybodaeth bellach - cysylltwch â Jane Edgington
Swyddog Hyfforddiant a Datblygiad
Telefon 07730519207 / 01490413223
