Cyrff yn galw am roi terfyn ar argyfwng cartrefi oer Cymru

Mae cyrff blaenllaw ar draws Cymru yn galw heddiw ar y Llywodraeth Cymru nesaf  i roi terfyn ar argyfwng cartrefi oer yng Nghymru.

Mae aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd yng Nghymru, sydd eisiau gweld terfyn ar bobl yn cael anhawster i fforddio eu biliau ynni, wedi amlinellu 5 blaenoriaeth allweddol ar gyfer y camau gweithredu y maen nhw eisiau i’r Llywodraeth Cymru nesaf fynd i’r afael â nhw.

wales fuel poverty coalitionMae un o’r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys buddsoddi mewn mesurau ataliol a fydd yn lleddfu’r baich ar adnoddau’r GIC sydd eisoes dan straen. Mae’r gynghrair yn amcangyfrif bod y gost i GIC Cymru o drin derbyniadau i’r ysbyty sydd yn gysylltiedig ag oerni dros £100m y flwyddyn ac mae’n debygol y bydd y gost yn cynyddu yn y dyfodol. Maen nhw hefyd eisiau gweld cynnydd yn y buddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.

Mae’r blaenoriaethau a amlinellwyd ym Maniffestio’r Gynghrair o’r enw ‘Rhoi Terfyn ar Argyfwng Cartrefi Oer Cymru’ yn cynnwys:

  • Gosod targed tlodi tanwydd newydd i wella cartrefi i leiafswm safonau effeithlonrwydd ynni o EPC C gyda data angenrheidiol i sbarduno strategaeth newydd uchelgeisiol
  • Buddsoddi mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni wedi thargedu’n dda a gydag adnoddau digonol ar gyfer teuluoedd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru fel blaenoriaeth seilwaith
  • Arbed bywydau trwy weithredu canllawiau NICE ar ddelio gyda marwolaethau ychwanegol y gaeaf
  • Amddiffyn teuluoedd bregus gyda chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi brys pan fo’u hiechyd mewn perygl
  • Cyllido gwasanaeth cynghori annibynnol i gefnogi pobl mewn tlodi tanwydd

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru “Mae’r ffigurau diweddaraf ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn 2014-15 yn gwbl warthus. Amcangyfrifir y gellir priodoli 30% o’r marwolaethau hyn i gartrefi oer sydd yn golygu 780 o farwolaethau diangen yng Nghymru yn ystod 2014-15. Dylai hyn fod yn annerbyniol i bob plaid wleidyddol.

“Gyda biliau ynni bellach yn anfforddiadwy i 1 o bob 3 teulu yng Nghymru, ni ddylai Llywodraeth  newydd ddrbyn y lefel yma o ddioddefaint a chost diangen a rhaid iddi ymateb i’r her trwy weithredu ar frys ar y camau gweithredu yn ein Maniffesto.”

Dywedodd Andrew Regan, Swyddog Polisi Cymru, Cyngor ar Bopeth: “Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn delio gyda gormod o gleientiaid y mae eu sefyllfa ariannol yn golygu eu bod yn osgoi cynnau eu gwres cyn hired â phosibl ac o ganlyniad i hynny, mae eu hiechyd yn dioddef.

“Y peth gwaethaf yn hyn oll ydy bod modd osgoi’r sefyllfa’n gyfan gwbl. Gallwn wneud cartrefi pobl yn gynhesach, yr unig beth sydd ei angen ydy’r ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Dylai’r Llywodraeth Cymru nesaf wneud effeithlonrwydd ynni yn  flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol. Fe fyddai pobl yn gynhesach ac yn iachach ac fe fyddai’r GIC ar ei ennill yn ariannol.”

Dywedodd Graeme Francis, Pennaeth Polisi, Age Cymru: “ Mae’r cynnydd gwarthus yma mewn marwolaethau gaeaf ymysg pobl hŷn – yr uchaf y ganrif hon, yn anfon neges glir ynghylch pwysigrwydd amddiffyn iechyd pobl yn ystod y gaeaf.

“Mae angen inni wella ansawdd ein tai ar frys, ac mae nifer ohonyn nhw yn gwbl annigonol i amddiffyn pobl yn erbyn y tywydd oer, llaith sydd yn gallu bod yn farwol i bobl y mae eu hiechyd eisoes mewn perygl.

“Mae hi hefyd yn hanfodol bod cymaint o bobl â phosibl yn derbyn y pigiad ffliw tymhorol. Os ydych yn 65 oed neu drosodd, dylech gael pigiad ffliw bob blwyddyn oherwydd mae’r firws ffliw yn newid yn rheolaidd ac mae imiwnedd yn gwanio.”

Dywedodd Steve Wooset, Rheolwr Gweithrediadau, Canolfan Cynghori Ynni Gogledd Cymru: “ Dim ond pigyn y rhewfryn ydy’r marwolaethau ychwanegol y gaeaf oherwydd cartrefi oer sydd yn anfforddiadwy i’w cynhesu, yn aml yn llaith ac yn effeithio ar iechyd y teuluoedd. Mae’n drasiedi bod pobl yn 2015 yn cael eu  dedfrydu i fyw mewn amgylchiadau mor anaddas pan fo gennym y modd i ddelio gyda hyn.”

Mae’r Maniffesto ar gael i’w lawr lwytho yma: www.nea.org.uk

Nodiadau i Olygyddion:  

  1. Am ragor o fanylion cysylltwch gyda Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru, ffôn 02920 229322 neu e-bost morgan-jones@nea.org.uk
  2. Sefydlwyd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn 2009 ac mae’n dwyn ynghyd dros 50 o gyrff sydd eisiau gweld terfyn ar dlodi tanwydd. Mae’r Gynghrair yn cael ei arwain gan Llais Defnyddwyr Cymru ac NEA Cymru a grŵp llywio yn cynnwys: Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Plant yng Nghymru, Tai Cymunedol Cymru, Cynnal Cymru, Canolfan Eco Cymru, Rhwydwaith rhoi Terfyn ar Dlodi Plant, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Leonard Cheshire Disability, Cymorth Canser Macmillan, Oxfam Cymru a Shelter Cymru.
  3. Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 teulu yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 o’r rhain yn deuluoedd bregus (gyda phlentyn, person hŷn neu rhywun anabl neu â salwch hir dymor). http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf
  4. Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni anfforddiadwy a safonau gwresogi ac insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, ynysu cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol yn achosi neu yn gwaethygu salwch difrifol ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
Menu Title