Canllaw ymarferol wedi’i lansio i helpu trigolion Caerdydd i gadw’n gynnes y gaeaf hwn

 

Mae canllaw adnawdd newydd sydd yn darparu cymorth ymarferol i drigolion Caerdydd i ddeall eu biliau ynni yn well ac i helpu’r rhai sydd mewn dyled gyda thaliadau nwy a thrydan yn cael ei lansio heddiw.

Cynhyrchwyd y Canllaw Gweithredu Tlodi Tanwydd gan yr elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru (NEA)  sydd yn ymgyrchu i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu fforddio cadw eu cartrefi yn gynnes, ar y cyd gyda Nwy Prydain ac amrediad eang o gyrff o Grŵp Llywio Cynhesrwydd Fforddiadwy Caerdydd.

Mae’r Canlaw yn rhan o amrediad o fentrau sydd yn cael eu rhedeg ar draws Caerdydd i ddelio gyda thlodi tanwydd yn y ddinas. Gall unrhyw un ddefnyddio’r Canllaw ac mae wedi ei ysgrifennu mewn Cymrage clir i gynnig gwybodaeth ar sut y gall pobl wneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon, delio gyda dyled tanwydd a newid cyflenwyr ynni. Mae’r cyhoeddiad ar gael fel adnawdd ar-lein ac mae dros 500 o gopïau wedi’u dosbarthu hefyd ar draws y Ddinas ac fe fydd ar gael mewn llyfrgelloedd, adeiladau cyhoeddus a chanolfannau cynghori etc.

Mae dalen ffeithiau hefyd yn cael ei chyhoeddi i roi’r ystadegau diweddaraf i gyrff rhan ddeiliaid am ddyled tanwydd a marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn yr ardal i’w helpu i ddangos y dystiolaeth yn well wrth wneud ceisiadau am ffrydiau cyllido.

Mae’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd yn datgelu bod lefelau dyled defnyddwyr trydan a nwy ar gyfartaledd wedi cynyddu yng Nghymru yn 2014 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol gyda dros 120,000 o gyfrifon trydan a nwy mewn dyled. Ynghyd â’r cynnydd yn y nifer o gyfrifon trydan a nwy yn talu am eu hynni trwy fesuryddion rhagdalu, mae’n holl bwysig bod pobl sydd yn cael trafferth i fforddio eu biliau ynni yn derbyn y gefnogaeth gywir.

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: “Nod y Canllaw ydy darparu gwybodaeth gynhwysfawr ac ymarferol iawn ynghylch yr help sydd ar gael ac at bwy i droi am gymorth i gadw eich cartref yn gynnes y gaeaf hwn. Yn aml mae pobl yn teimlo yn ynysig iawn pan fyddan nhw’n cael trafferthion gyda’u biliau cartref. Mae nifer yn ansicr ynghylch sut y gallan nhw wella eu sefyllfa a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth i lunio’r Canllaw hwn.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynaliadwyedd yng Nghyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Fe fyddaf yn sicr yn defnyddio’r Canllaw i helpu  trigolion yn fy etholaeth sydd yn teimlo effeithiau tlodi tanwydd. Rwy’n falch bod ein cynllun newid ar y cyd, Cyd Cymru – Wales Together  yn cael ei hyrwyddo yn y Cynllun fel un dull i wneud costau ynni yn fwy fforddiadwy. Hoffwn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer y cynllun a gweld beth y gallan nhw ei arbed.”

I ddarganfod rhagor am Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol Caerdydd ac i lawr lwytho’r Canllaw Tlodi Tanwydd ewch i: http://www.nea.org.uk/nea-cymru/publications/

 DIWEDD

Ar gyfer pob ymholiad cysylltwch gyda Carole.Morgan-Jones@nea.org.uk  Ffôn 029 2022 9322 / 07720591403

 Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol yn rhaglen genedlaethol a ddarperir gan yr elusen tlodi tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) a Nwy Prydain, mewn partneriaeth gyda chynghorau ar draws y DU. Fe fydd yn gymorth i greu ynni fforddiadwy a gwella bywydau a ffyniant preswylwyr trwy weithgareddau ymarferol mewn wyth ardal ar draws Cymru a Lloegr, gan arfogi’r gymuned leol gyda’r offer angenrheidiol i ddelio gyda thlodi tanwydd yn y dyfodol.
  • NEA ydy prif elusen tlodi tanwydd y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am fanylion pellach ewch i visit nea.org.uk
  • Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni, a gwresogi a safonau insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, unigrwydd cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol i salwch ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
  • Yng Nghymru, caiff tlodi tanwydd ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 teulu (30%) yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 or rhain yn deuluoedd bregus (gyda phlentyn, person hŷn, neu rhywun sydd yn anabl neu yn dioddef salwch hir dymor) . http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf

 

Menu Title