Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn ymateb i ffigurau tlodi tanwydd newydd a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru

Cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016


Heddiw mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru wedi rhoi croeso gofalus i gyhoeddiad amcanestyniadau newydd yn dangos bod  nifer y teuluoedd sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn gostwng.

Cyn hyn, mae’r grŵp wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r data sydd ar gael ar dlodi tanwydd. Dywedodd cyd gadeirydd y Gynghrair a  Chyfarwyddwraig NEA Cymru, Carole Morgan-Jones, y byddai’r grŵp yn edrych yn agos ar yr adroddiad.

Dywedodd Ms Morgan-Jones: “Tra bod y gostyngiad a amcangyfrifir mewn tlodi tanwydd yn newyddion i’w groesawu, mae hynny yn dal i olygu bod 1 o bob 4 teulu yn cael trafferth i fforddio cynnal cartref cynnes.  Fe fydd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn edrych yn agos ar y ffordd y mae’r amcangyfrifon yma wedi’u llunio. Ond dydy’r hyn yr ydym yn ei glywed ar lawr gwlad yn ein cymunedau ddim yn cyd-fynd gyda’r darlun gwell a bortreadir. Mae adroddiadau eraill yn dangos bod miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn cael trafferth i dalu eu biliau ynni, ac yn bryderus iawn, mae’r nifer o gwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu yn parhau i gynyddu, gyda mwyafrif y mesuryddion yma yn cael eu gosod i reoli dyledion.

Mae’n fater o bryder hefyd bod Llywodraeth Cymru fel pe bai’n symud i ffwrdd o’i amcan i ddileu tlodi tanwydd i bob teulu erbyn 2018. Cyn Etholiadau’r Cynulliad galwodd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru am ragor o fuddsoddi mewn rhaglenni effeithlonrwydd ynni. Rydym eisiau adnewyddu’r alwad yma fel yr unig ddull cynaliadawy hir dymor i liniaru effeithiau unrhyw gynnydd mewn biliau ynni yn y dyfodol.”

Mae Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, dan gadeiryddiaeth NEA Cymru a Chyngor ar Bopeth Cymru, yn gynghrair o elusennau a chyrff eraill sydd yn ymgyrchu i roi terfyn ar y diflastod a’r dioddef sy’n cael eu creu gan gartrefi oer. Mae cyrff sydd yn aelodau o’r Gynghrair yn cynnwys: NEA Cymru, Cyngor ar Bopeth, Tai Cymunedol Cymru, Cymru Gynnes, Cyfeillion y Ddaear, Age Cymru, Plant yng Nghymru, Cynnal Cymru a Chanolfan Gynghori Ynni Gogledd Cymru.

Mae’r Gynghrair wedi amlinellu 5 blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu y byddan nhw eisiau i Lywodraeth Cymru eu gweithredu, sef:

  • gosod targed tlodi tanwydd newydd i wella cartrefi i leiafswm safon effeithlonrwydd ynni o EPC C, gyda chefnogaeth data rydym ei angen i sbarduno strategaeth newydd uchelgeisiol
  • buddsoddi mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni gydag adnoddau da, wedi’i thargedu’n dda ar gyfer teuluoedd sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru fel blaenoriaeth isadeiledd
  • achub bywydau trwy weithredu canllawiau NICE ar fynd i’r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf
  • amddiffyn teuluoedd bregus gyda chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi brys pan fo’u hiechyd mewn perygl

Cyllido gwasanaethau cynghori annibynnol i gefnogi pobl sydd mewn tlodi tanwydd

Nodiadau i elygyddion:

  1. Am agor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru, ffôn 02920 229322 neu e-bost carole.morgan-jones@nea.org.uk
  2. NEA ydy prif elusen tlodi tanwydd y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am ragor o fanylion ewch i http://www.nea.org.uk.
  3. Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd.
  4. Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni anfforddiadwy a safonau gwresogi ac insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, ynysu cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol i achosi neu waethygu salwch difrifol ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
Menu Title