12000 o breswylwyr Caerdydd yn fwy gwybodus am ynni oherwydd cynllun hyfforddi

22 Medi 2015

Mae dros 12,000 o bobl yng Nghaerdydd bellach yn fwy gwybodus am ynni oherwydd menter a anelwyd at helpu cymunedau i gael cartrefi cynhesach a biliau ynni rhatach.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae bron i 140 o weithwyr rheng flaen ar draws y ddinas wedi derbyn hyfforddiant i helpu preswylwyr reoli eu defnydd o nwy a thrydan.

Mae’r sesiynau hyfforddi yn rhoi cyngor ar sut y gall pobl wneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon, delio gyda dyledion tanwydd a newid cyflenwyr ynni.

Mae’r rhai sydd wedi’u hyfforddi yn cynnwys cynghorwyr ariannol, gweithwyr cefnogi, ymwelwyr iechyd, swyddogion awdurdod lleol a chymdeithasau tai yn ogystal â landlordiaid ac asiantwyr gosod tai sydd erbyn hyn yn trosglwyddo’r cyngor pwysig i breswylwyr y maen nhw’n eu cyfarfod.

Amcangyfrifir y bydd pob person a hyfforddir yn helpu tua 15 o bobl yn y gymuned leol bob mis, ac mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl eisoes wedi elwa o’r cynllun.

Mae’r prosiect yn rhan o’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol (CAP) £1.2 miliwn a ddarperir gan yr elusen tlodi tanwydd NEA Cymru a Chyngor Caerdydd, ac a gyllidir gan Nwy Prydain.

Ers cwblhau’r hyfforddiant mae Suzy Youngman, cynghorydd dyled tanwydd yng Nghanolfan Cynghori Speakeasy yng Nghaerdydd wedi helpu 149 o bobl yn y gymuned.

Dywedodd Suzy: “Rwy’n gweld cleientiaid bob dydd sydd yn cael anhawster gyda’u biliau cartref. Mae nifer ohonyn nhw’n ansicr sut i wella’r sefyllfa ac heb fod yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael.

“Mae’r hyfforddiant a gefais trwy’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol Caerdydd wedi fy helpu i roi’r cyngor gorau posibl i’r cleientiaid a dangos iddyn nhw fod yna atebion i’w cael.”

Roedd un preswylydd o Gaerdydd y bu Suzy yn ei helpu wedi bod yn cael trafferthion gyda’i iechyd ac wedi mynd i ddyledion gyda thaliadau nwy a thrydan tra yn yr ysbyty. Roedd ei phryderon ynghylch gwariant yn golygu nad oedd braidd byth yn cynnau’r gwres pan oedd yn dychwelyd gartref ac roedd hynny yn effeithio eto ar ei iechyd.

Llwyddodd Suzy i gysylltu gyda chyflenwr ynni’r fenyw a thrafod cynllun ad-dalu newydd. Gwnaeth Suzy gais i Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain am help pellach a dyfarnodd yr Ymddiriedolaeth ychydig dan £300 i’r cleient i dalu ei dyledion yn llawn

Dywedodd Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ar Gyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire: “Mae’r hyfforddiant a gynigiwyd fel pe bai’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sicrhau bod cynghorwyr yn gallu cynnig y cyngor diweddaraf i breswylwyr ar effeithlonrwydd ynni a darganfod y cyflenwr gorau. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth yma sydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghaerdydd.”

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) Cymru:“Rydym eisiau i bawb gael cartref cynnes a mynediad i gyngor a chefnogaeth os ydyn nhw’n poeni am dalu eu biliau ynni. Mae’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol yng Nghaerdydd a gyllidir gan Nwy Prydain yn enghraifft o sut y gallwn gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i ddelio gydag effaith tlodi tanwydd ar bobl yng Nghymru.”

Dywedodd Christine Tate, pennaeth cyfrifoldeb corfforaethol yn Nwy Prydain: “Mae ein gwaith gyda Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru yn helpu nifer o bobl mewn angen ar draws Caerdydd a Chymru, gan greu cartrefi cynhesach, mwy ynni effeithlon i breswylwyr a biliau tanwydd rhatach hefyd.”

I ddarganfod rhagor am Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol ewch i:http://www.communityactionpartnership.org.uk/

DIWEDD

Ar gyfer pob ymholiad cysylltwch gyda Carole Morgan-Jones, ffon 029 2022 9322 / 07720591403

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol yn rhaglen genedlaethol a gyflenwir gan yr elusen tlodi tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) a Nwy Prydain, mewn partneriaeth gyda chynghorau ar draws y DU. Fe fydd yn helpu i greu ynni fforddiadwy a gwella bywydau a ffyniant preswylwyr trwy weithgareddau ymarferol mewn wyth lleoliad ar draws Cymru a Lloegr, gan arfogi cymunedau lleol gyda’r arfau angenrheidiol i ddelio gyda thlodi tanwydd yn y dyfodol.
  • NEA ydy’r prif elusen tlodi tanwydd yn y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am ragor o wybodaeth ewch i www.nea.org.uk
  • Mae’r astudiaethau achos amgaeedig yn rhoi dwy enghraifft o sut y mae’r hyfforddiant tlodi tanwydd a dyled tanwydd wedi helpu i gefnogi pobl yng Nghaerdydd sydd yn cael anhawster i reoli eu biliau ynni.
  • Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni, a safonau gwresogi ac insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, ynysu cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol a salwch ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
  • Yng Nghymru, caiff tlodi tanwydd ei ddiffinio fel yr angen i orfod gwario dros 10% o incwm teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 (30%) o deuluoedd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 o’r rhain yn deuluoedd bregus (gyda phlentyn, personau hŷn neu rhywun sydd yn anabl neu â salwch hir dymor). http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf
Menu Title