Mae NEA Cymru yn galw ar ffocws o’r newydd ar gartrefi cynnes ac iach

10 Chwefror 2016

Fe fydd nifer fawr o gynadleddwyr yn dod at ei gilydd yr wythnos hon i ganolbwyntio ar sut y gall Llywodraeth Cymru nesaf fynd i’r afael ag argyfwng cartrefi oer Cymru.

Mae’r gynhadledd ‘Cartrefi Cynhesach ac Iachach i Bawb’ a gynhelir ar ddydd Iau 11 Chwefror 2016 yn Neuadd y Ddinas Caerdydd wedi’i threfnu gan yr elusen tlodi tanwydd NEA Cymru, mewn partneriaeth gyda’r gwasanaeth argyfwng a phibellau nwy, Wales & West Utilities.

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru: “Rwy’n hynod o falch bod cymaint o gynadleddwyr yn mynychu’r gynhadledd hon eleni. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar adeg hanfodol wrth inni edrych ymlaen at etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai a thrafod yr heriau a’r cyfleoedd allweddol i Lywodraeth Cyru nesaf fynd i’r afael â’n hargyfwng Cartrefi oer.

Yn yr 21ain Ganrif ni ddylai neb yng Nghymru orfod dioddef y diflastod a’r dioddefaint o fyw mewn cartref oer, ond yn anffodus, gwyddom nad ydy bron i un rhan o dair o deuluoedd yng Nghymru yn gallu fforddio cadw eu cartrefi yn gynnes ar gost fforddiadwy. Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn wynebu argyfwng tlodi tanwydd a does dim digon o arian yn cael ei glustnodi i fuddsoddi er mwyn gwneud ein cartrefi yn fwy ynni effeithlon.”

Dywedodd Mark Oliver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, Wales & West Utilities:  “Mae NEA yn bartner allweddol inni, ac rydym yn falch o gael noddi cynhadledd Cymru eleni. Rydym wedi ymrwymo i helpu ein cwsmeriaid i gadw’n gynnes ar gost rhesymol a gofalu am y rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae ein cynllun Cymorth Cartref Cynnes wedi cysylltu dros 11,000 o gartrefi gyda’r prif rwydwaith nwy – ond gwyddom bod rhagor eto i’w wneud. Fe fyddwn yn cefnogi dros 12,500 o gysylltiadau nwy newydd erbyn 2021 lle mae hynny’n ateb cost effeithiol – gan arbed cymaint â £700 y flwyddyn i bob teulu.”

Gyda dwy flynedd yn weddill o darged Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi tanwydd ym mhob cartref yng Nghymru, fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn erbyn cefndir o gynnydd brawychus mewn marwolaethau diangen y gaeaf a nifer cynyddol o fesuryddion rhagdalu yn cael eu gosod yng Nghymru i adfer dyledion.

Fe ddaw’r gynhadledd â chynrychiolwyr o amrediad amrywiol o gyrff a sectorau yng Nghymru at ei gilydd, yn cynnwys y sectorau preiat, masnachol, iechyd a gwirfoddol i drafod ac archwilio’r camau gweithredu allweddol angenrheidiol i greu  cartrefi cynhesach ac iachach i bobl yng Nghymru. Fe fydd y gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynadleddwyr glywed am y cynnydd sydd yn digwydd wrth fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y gwahanol genhedloedd, Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch gyda Carole Morgan-Jones Ffôn 029 2022 9322 / 07720591403
  2. NEA ydy prif elusen tlodi tanwydd yn y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am ragor o fanylion ewch i nea.org.uk
  3. Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni; safonau gwresogi ac insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, ynysu cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol i salwch ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaeth cynnar.
  4. Yng Nghymru caiff tlodi tanwydd ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 30%) o deuluoedd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2001, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 o’r rhai yn deuluoedd bregus gyda phlentyn person hŷn eu rhywun sydd yn anabl neu gyda salwch hir dymor). http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf
  5. Mae Wales & West Utilities, y gwasanaeth argyfwng a phibellau nwy, yn darparu ynni i 7.5m o bobl ar draws de orllewin Lloegr a Chymru. Os oes unrhyw un yn arogli nwy, yn meddwl bod nwy yn gollwng neu yn amau gwenwyno carbon monocsid fe ddylen nhw ein ffonio ar 0800 111 999 ac fe fydd ein perianwyr ar gael i helpu, ddydd neu nos.
  6. Mae gan y cwmni hefyd raglen fuddsoddi mewn pibellau sawl miliwn o bunnoedd, 30 mlynedd a ddechreuodd yn 2002. Mae hen bibellau metel o fewn 30 metr i adeiladau yn cael eu newid gyda phibellau plastig hir hoedlog newydd a fydd yn para am dros 80 mlynedd, i sicrhau bod cartrefi a busnesau yn parhau i dderbyn cyflenwad nwy diogel a dibynadwy nawr ac yn y dyfodol.
Menu Title