Cynhesrwydd y Gaeaf yn Ffair Aeaf Trelai

Fe fydd cadw’n gynnes ac yn iach yn ffocws Ffair Aeaf ar ddydd Mercher. Cynhelir y digwyddiad yma yn Neuadd Glan Elai yn Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelai, Caerdydd.

Fe fydd amrediad o gyrff ar gael i ddarparu cyngor arbenigol i breswylwyr lleol ar sut i gadw’n gynnes y gaeaf yma – o sut i arbed arian trwy newid i dariff trydan rhatach, i’r gefnogaeth sydd ar gael gan gyflenwyr ynni i’r rhai sydd efallai wedi mynd i ddyledion gyda’u taliadau.

Fe fydd staff o’r elsuen tlodi tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol yn cynnal gêm bingo effeithlonrwydd ynni rhyngweithiol gan roi cynghorion defnyddiol ar sut i arbed ynni yn y cartref. Fe fydd yna amrediad o weithgareddau hwyliog hefyd i blant yn cynnwys peintio wynebau, ‘snakes and ladders’, castell neidio a chrefftau Nadolig.

Cynhelir y digwyddiad gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlai (ACE), rhaglen wrth dlodi gymunedol wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru a’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol (CAP), partneriaeth dwy flynedd rhwng Nwy Prydain, Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae’r cynllun CAP yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu dull o weithredu yn y gymuned i ddelio gyda thlodi tanwydd.

Dywedodd Carole Morgan-Jones, cyfarwyddwraig NEA Cymru:  “Mae’n bleser gan NEA Cymru gefnogi’r Ffair Aeaf a gyda’r tywydd oerach yn dynesu, dyma’r amser perffaith i arbed rhywfaint o arian trwy siopa o gwmpas am fargen ynni well.”

Dywedodd Christine Tate, pennaeth cyfrifoldeb corfforaethol Nwy Prydain: “Mae gan Nwy Prydain rôl bwysig i’w chwarae mewn delio gyda thlodi tanwydd. Dyna pam ein bod yn falch o gefnogi Ffair Aeaf Trelai a helpu pobl i greu  cartrefi cynhesach, mwy  ynni effeithlon.”

Dywedodd Aelod Cabinet Trafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Mae’n holl bwysig bod preswylwyr yn gwybod sut i gadw’n gynnes y gaeaf yma. Rwy’n annog pawb i ddod i Ffair Nadolig Trelai a derbyn rhai cynghorion ar sut i arbed ynni yn y cartref tra’n chwarae gêm o bingo. Mae’n rhywfaint o hwyl ond mae’r neges i breswylwyr yn hynod o bwysig. Mae’n bwysig hefyd bod pobl yn cael y fargen orau posibl ar eu hynni felly fe fyddwn yn annog pobl i ymuno gyda’r grŵp prynu ynni ar y cyd, Cyd Cymru, sydd yn mynd at gwmnïau ar ran ei aelodau i gael y pris gorau.”

Dywedodd Sam Froud-Powell, Cydgysylltydd Ynni Cymunedol yn  ACE “Mae llawer o’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw yn cael trafferthion yn gynyddol gyda’u biliau ynni felly rydym yn ddiolchgar iawn  am gefnogaeth NEA a Nwy Prydain ar gyfer ein gwaith cynghori a chefnogi, gan alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu costau ynni.”

Nodiadau i Olygyddion:

 

  • Ar gyfer pob ymholiad cysylltwch gyda Morgan-Jones@nea.org.uk Ffôn 02920 229322/07720591403
  • Mae’r Bartneriaeth Gweithredu Cymunedol (CAP) yn brosiect partneriaeth rhwng Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA), Nwy Prydain, awdurdodau lleol a’u partneriaid, sydd yn gweithio i ddelio gyda thlodi tanwydd mewn wyth ardal ar draws y DU. Mae CAP yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu dull o weithredu cymunedol, wedi’i deilwra sydd yn gweithio ar gyfer pob cymuned. Mae’r cynllun yn cynnig cyngor ymarferol ac ymgysylltiad cymunedol i ddefnyddwyr, gwella rhwydweithiau cyfeirio i bobl sydd eisiau cefnogaeth bellach a gweithwyr rheng flaen hyfforddi sydd yn gweithio gyda phobl mewn tlodi tanwydd.
  • NEA ydy prif elusen tlodi tanwydd y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am fanylion pellach ewch i http://www.nea.org.uk.
  • Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel, prisiau ynni anfforddiadwy a safonau gwresogi ac insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, ynysu cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol yn achosi neu yn gwaethygu salwch difrifol ac yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
  • Yng Nghymru mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 teulu yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 o’r rhain yn deuluoedd bregus (gyda phlentyn, person hŷn neu rhywun anabl neu â salwch hir dymor). http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf
Menu Title