Adroddiad newydd yn galw am ragor o fuddsoddiad i ddelio gyda thlodi tanwydd yng Nghymru

3 June 2015

Mae adroddiad newydd gan yr elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) yn galw am ragor o fuddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar draws y DU.

Heb fuddsoddiad o’r fath mae’r adroddiad yn dod i’rcasgliad y bydd y gost a’r dioddef a achosir gan dlodi tanwydd yn cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol.

Cynhyrchir y monitor tlodi tanwydd DU, adroddiad sydd yn archwilio’r dulliau polisi amrywiol tuag at dlodi tanwydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) ar ran Cyngor ar Bopeth.

Mae NEA yn amcangyfrif, dros y 15 mlynedd nesaf y bydd 7000 o bobl hyglwyf yng Nghymru yn marw’n ddiangen oherwydd yr oerni ac y bydd yn rhaid i’r gwasanaethauiechyd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wario dros £22 biliwn i ddelio gyda phroblemau iechyd yn berthynol i oerni.

I ddelio gyda’r broblem mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth y DU ddefnyddio’r arian y mae’n ei godi trwy TAW a threthi carbon gan ddefnyddwyr ynni domestig i gyllido mentrau yn ddigonol i wneud cartrefi’n gynhesach ac yn iachach. Amcangyfrifir y bydd y Trysorlys yn derbyn £14 biliwn dros y 5 mlynedd nesaf a £690m o hynny wedi’i gyfrannu gan ddefnyddwyr ynni Cymru yn unig.

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig NEA Cymru:

“Daw’r adroddiad ar adeg amserol iawn gydag ymchwiliad parhaus i dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn cael ei gynnal gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad a strategaeth effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru i’w gyhoeddi’n fuan. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad yn gymorth i lunwyr polisi a phenderfyniadau yng Nghymru. Mae’n amlwg bod angen mwy o ymdrech ar ran y llywodraethau datganoledig a chenedlaetholi ddelio gydag argyfwng cartrefi oer y genedl.”

Dywedodd Fran Targett, Cyfarwyddwraig Cyngor ar Bopeth Cymru: “Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth agos gyda NEA Cymru yn y Gynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, gan ddarparu llais unedig cryf i bobl yng Nghymru sydd yn cael trafferth i fforddio eu biliau ynni. Rydym yn falch o fod wedi cyllido’r Monitor Tlodi Tanwydd DU unwaith eto, sydd yn darparu casgliad annibynnol ar y cynnydd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar draws y DU.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi hen ymrwymo i gyllido rhaglenni effeithlonrwydd ynni i deuluoedd sydd yn cael trafferthion, ond ddylen ni ddim bychanu maint y gwaith o ddileu tlodi tanwydd yn gyfan gwbl. Mae’r Monitor yn ein hatgoffa bod rhaid inni fod yn agored i syniadau newdd, a herio ein hunain trwy’r amser i ddarganfod ffyrdd o helpu pobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio cartref cynnes.”

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Ar gyfer pob ymholiad cysylltwch gyda Carole Morgan-Jones ar 029 2022 9322.
  2. NEA ydy prif elusen tlodi tanwydd y DU yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy. Am ragor o fanylion ewch i http://www.nea.org.uk.
  3. Mae NEA yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy yng nghartrefi pobl hyglwyf. Hyd yn hyn mae NEA wedi helpu dros 7.5 miliwn o deuluoedd yn y DU i gael mynediad i gyngor ar ynni a grantiau effeithlonrwydd ynni.
  4. Mae crynodeb o’r adroddiad llawn ar gael yn: http://www.nea.org.uk/monitor2015Yn dilyn cydweithrediadau blaenorol gyda Llais Defnyddwyr a Dyfodol Defnyddwyr, eleni, cynhyrchir y Monitor Tlodi Tanwydd DU gyda chefnogaeth gan Gyngor ar Bopeth.
  5. Mae tlodi tanwydd yn deillio o gyfuniad o ffactorau: incwm teulu isel; prisiau ynni anfforddiadwy; a gwresogi a safonau insiwleiddio annigonol. Mae canlyniadau tlodi tanwydd yn amrywio o drallod seicolegol, arwahanrwydd cymdeithasol ac anghyfforddusrwydd corfforol i achosi neu waethygu salwch difrifol ac, yn yr achosion mwyaf eithafol, marwolaethau cynnar.
  6. Yng Nghymru mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y teulu ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. Roedd bron i 1 o bob 3 teulu (30%) yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, sef 386,000 o gartrefi. Credir bod 328,000 o’r rhain yn deuluoedd hyglwyf (gyda phlentyn, person hŷn neu rhywun sydd yn anabl neu gyda salwch hir dymor).http://wales.gov.uk/docs/caecd/research/130430-wales-fuel-poverty-projection-tool-2011-12-report-en.pdf
  7. Mae’r adroddiad yn amlygu y bydd defnyddwyr ynni domestig, dros dymor Senedd y DU (y 5 mlynedd nesaf) yn cyfrannu dros £14 biliwn i’r Trysorlys (£11.82bn yn Lloegr, £1.33bn yn yr Alban, £690m yng Nghymru a £190m yng Ngogledd Iwerddon) trwy TAW a refeniw o drethi carbon. Gan mai Trysorlys y DU fydd yn derbyn yr arian yma, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod rhaid i Lywodraeth newydd y DU gefnogi’r defnydd o’r cyllid yma (neu gyllid seilwaith cyhoeddus amgen) i gyllido mentrau sydd yn gwneud cartrefi yn gynhesach ac yn iachachyn ddigonol ac yn ei dro annog twf economaidd. Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion ar faterion eraill sydd yn rhaid eu trafod ar lefel genedlaethol yn y bedair cenedl.
Menu Title