Eiddo gyda nwy

Eiddo ar y prif rwydwaith nwy

Fel rheol caiff ynni i eiddo ar y prif rwydwaith nwy ei gyflenwi gan nwy naturiol sydd yn cael ei fwydo o brif bibell nwy ac fe'i cyflenwir i'r eiddo ar gyfer defnydd domestig. Mae eiddo ar y prifi rwydwaith nwy yn tueddu i fod yn fwy trefol lle mae mwy o alw am ynni i wresogi eich cartref, a'i gwneud yn fwy manteisiol i fuddsoddi yn gychwynnol yn y gwaith sydd angen ei wneud. Mae gan deuluoedd ar y prif rwydwaith nwy ddewis hefyd i ddefnyddio trydan, nwy, LPG neu danwydd solet fel coed i wresogi eu cartrefi. Er bod sawl dewis o ynni ar gyfer cartrefi teuluoedd ar y prif rwydwaith nwy mae NEA yn teimlo mai nwy naturiol yw'r tanwydd rhataf ar gyfer gwresogi eich cartref oherwydd y gost isel fesul awr Kilowat o'i gymharu â ffynonellau ynni eraill. Ac effeithlonrwydd uchel a'r modd o allu rheoli gwres wrth ddefnyddio boeleri nwy heddiw. 

Mae amrywiaeth mawr o insiwleiddio, systemau gwresogi a dŵr poeth ar gyfer eiddo ar y prif rwydwaith nwy, boed yn insiwleiddio allanol neu fewnol, neu foeleri cyddwyso effeithlonrwydd uchel neu systemau gwresogi cyfuno effeithlon. Dewiswch y math o eiddo yr ydych yn byw ynddo o'r dewisiadau isod

  

 

 

Date last updated: 26/04/2011 2:39pm