Cynhadledd Flynyddol NEA Cymru

Cynhadledd Flynyddol NEA  Cymru

28 Ionawr 2009, Stadiwm Mileniwm Caerdydd

Mae angen dybryd i’r agenda tlodi tanwydd fynd yn ôl ar y trywydd cywir. Gyda’r nifer o gartrefi mewn tlodi tanwydd yn cynyddu dros y tair blynedd ddiwethaf mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad wedi derbyn na fyddant yn cwrdd â’u targed o gael gwared ar dlodi tanwydd ymysg grwpiau bregus erbyn 2010.  Ac mae targedau Llywodraeth y Cynulliad o gael gwared ar dlodi tanwydd ymysg tai cymdeithasol erbyn 2012 ac i gael gwared ar dlodi tanwydd erbyn 2018 yn ymddangos yn anos i’w cyrraedd. Mae Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad gyda chyfrifoldeb dros dlodi tanwydd, Jane Davidson, wedi ailddatgan ei hymrwymiad i helpu i ddelio â’r broblem hon ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu ei Strategaeth Tlodi Tanwydd a’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref Cymru fel rhan o Ymrwymiad Cymru’n Un i ddatblygu Cynllun Effeithlonrwydd ac Arbed Ynni Cenedlaethol.

Nod y gynhadledd hon yw darparu’r cyfle i nodi’r gweithrediadau angenrheidiol i sicrhau bod yr Ymrwymiadau Tlodi Tanwydd Cymreig yn mynd yn ôl ar y trywydd cywir.

Bydd y sesiynau llawn yn y gynhadledd eleni yn edrych ar y materion canlynol:

Pa gefnogaeth sydd ei angen i helpu grwpiau bregus a’r rhan y mae Comisiynwyr yn ei chwarae yn yr agenda hon;

Sut y gall gweithredu llywodraethau yn Ewrop, San Steffan a Chaerdydd helpu i ymladd tlodi tanwydd yng Nghymru; a

Dod â’r sectorau gwirfoddol, preifat a llywodraeth at ei gilydd i weithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Cefnogir prif sesiynau’r gynhadledd gan wyth gweithdy yn trafod amrediad eang o bynciau. Bydd dau weithdy yn cynnwys cynrychiolwyr o fforymau pobl hŷn, partneriaethau plant a phobl ifanc ac ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf.

Bydd pob gweithdy yn rhyngweithiol gan roi cyfle i bawb fynegi barn, gofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth a phrofiad. Bydd gofod arddangos yn y gynhadledd hefyd a bydd yn annog cynadleddwyr i rwydweithio, cyfarfod cydweithwyr sydd yn gweithio mewn meysydd gwahanol a phlannu hadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol!

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth npower, noddwyr cynhadledd eleni, a hoffem ddiolch hefyd i Lywodraeth y Cynulliad am ei gefnogaeth barhaus

Gobeithio y bydd y gynhadledd yn ddefnyddiol ac y bydd yn rhoi gwybodaeth i chi ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi gan helpu i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gadw cartref cynnes yn y gaeaf.

Nuria Zolle

Cyfarwyddwraig NEA Cymru  

To download a booking form please follow the link

NEA CYMRU Furflen Archebu

CYSYLLTWCH Â LESLEY TUDOR-SNODIN YN NEA AR 0191 261 5677 lesley.tudor-snodin@nea.org.uk

Diwedd

Nodiadau i olygyddion 

1/ NEA yw’r prif elusen tlodi tanwydd sydd yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy yng nghartrefi pobl fregus. Ewch i www.nea.org.uk  Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y cartref ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. 

Am ymholiadau cyfryngau cysylltwch â Lesley Snodin ar 0191 2615677

npower logo

Date last updated: 02/12/2008 12:02pm