Elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol y DU
Ymgyrchu dros gartrefi cynnes a rhoi terfyn ar dlodi tanwydd yng Nghymru
Pwy ydym ni?
NEA Cymru yw cangen Cymru o NEA (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) prif elusen tlodi tanwydd y DU. Yng Nghymru, fel ag yng ngweddill y DU, rydym yn ymgyrchu dros roi terfyn ar dlodi tanwydd trwy gynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Mae Tlodi Tanwydd ar gynnydd yng Nghymru fel yng ngweddill y DG. Yn Hydref 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganfyddiadau ei arolwg Byw yng Nghymru. Roedd yn dangos er bod tlodi tanwydd wedi gostwng yn sylweddol rhwng 1998 a 2004 – o 330,000 i 134,000 o aelwydydd, bod prisiau cynyddol ynni’n golygu bod y nifer o aelwydydd tlawd o ran tanwydd wedi dyblu bron i 240,000 – 250,000, rhwng 2004 a 2006. O’r aelwydydd hyn mae 209,000 yn cael eu cyfri’n “agored i niwed”.
Y tu ôl i’r diffiniad technegol mae profiadau go iawn o bobl yn byw mewn cartrefi oer a llaith na allant fforddio cynhesu eu cartrefi. Rydym yn clywed hanesion am sawl tad-cu a mam-gu yn rhynnu yn y gaeaf oherwydd eu bod yn gwybod os byddant yn talu eu biliau gwresogi yna ni fyddant yn gallu fforddio prynu anrhegion Nadolig i’w hwyrion a’u hwyresau. Rydym yn clywed hefyd am bobl ifanc sydd yn mynd i ddyledion mawr er mwyn talu eu biliau gwresogi.
Mae NEA Cymru yn credu na ddylai pobl, nifer ohonynt yn fregus iawn, orfod wynebu’r dewisiadau amhosibl hyn, sydd yn y pen draw yn effeithio ar iechyd, lles personol ac urddas pobl. Dyna pam yr ydym yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
Cynhesu?
Mae rhan hanfodol o waith NEA Cymru yn cynnwys ymgyrchu dros mwy o weithredu ar ran y Llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod targedau i gael gwared ar dlodi tanwydd erbyn 2018, gyda thargedau dros dro i gael gwared a dlodi tanwydd ymysg grwpiau bregus erbyn 2010 ac mewn tai cymdeithasol erbyn 2012. Mae’r targedau hyn wedi gosod y pwyslais a’r ffocws ar yr angen i gyflwyno cymorth ymarferol i gartrefi incwm isel sydd mewn perygl oherwydd canlyniadau tanwydd tlodi./ Ond mae nifer o anawsterau ymarferol sydd yn effeithio ar gyflawniad y targedau hyn:
- Mae cynnydd diweddar mewn prisiau ynni yn golygu bod y bil ar gyfartaledd ar gyfer cartrefi yng Nghymru dros £1000 erbyn diwedd 2006. Er bod prisiau yn dechrau gostwng ychydig, maent yn debygol o barhau’n uchel. Mae prisiau trydan yng Nghymru fodd bynnag 10% yn uwch nag yn Lloegr.
- Nid oes gan 200,000 o gartrefi fodd o gael nwy o’r prif ffynhonnell ac i filoedd o bobl mae waliau solid yn gwneud insiwleiddio effeithiol yn anodd.
- Mae incwm isel yn gydran mawr o dlodi tanwydd ac er gwaethaf y cynnydd mewn ffyniant economaidd, mae Cymru yn dal i fod ymysg y rhanbarthau tlotaf yn Ewrop.
Cyflawni Cynhesrwydd Fforddiadwy

Mae cynllun gwaith NEA Cymru ar gyfer Cymru wedi’i ddylunio i ymateb i’r sialensau hyn ac i sialensau eraill. Yn dilyn ymgynghoriadau gyda rhan ddeiliaid, i gyflawni ein nod rydym wedi dyfeisio yr amcanion canlynol ar gyfer NEA Cymru:
- Gweithio gyda phob cynrychiolydd gwleidyddol i godi ymwybyddiaeth am adnoddau a mesurau angenrheidiol i gael gwared o dlodi tanwydd.
- Datblygu cynghreiriau cryf yn erbyn tlodi tanwydd i wella gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio a sicrhau bod profiadau rhan ddeiliaid yn llywio polisi ac ymarfer
- Datblygu cymwysterau cenedlaethol a rheoli eu gweithrediad i wella safonau gwaith ymarferol ac ansawdd cyngor ynni
- Datblygu prosiectau piblinellau arloesol sydd yn cyfrannu at gael gwared o dlodi tanwydd yng Nghymru a darparu’r sylfaen tystiolaeth i lywio cynllunio a strategaeth ar gyfer Cymru yn ogystal ag enillion ymarferol i’n cymunedau
Sicrhau ymrwymiad
Mae rhai o’n huchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys:
Ymgyrch Cartrefi Cynnes: Mae AC ac AS Cymru yn cyfarfod yn flynyddol â chartrefi bregus ac yn darganfod drostynt eu hunain y cyfraniad y mae effeithlonrwydd ynni yn ei wneud i gael gwared o dlodi tanwydd o dan ein Hymgyrch Cartrefi Cynnes;
Briffio cyn yr etholiad: Mae NEA wedi cael ymrwymiad ar draws y pleidiau i dlodi tanwydd ar ôl etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ymchwil a dadansoddiad i achosion a graddau tlodi tanwydd a datblygiad polisi sydd yn mynd i’r afael â’r broblem
Cynnwys pawb! – hwyluso fforymau tlodi tanwydd yng ngogledd, canolbarth a de Cymru a sicrhau bod argymhellion a wneir gan ran ddeiliaid yn y sesiynau hyn yn cael eu hystyried gan Grŵp Ymgynghorol Tlodi Tanwydd
Creu rhwydweithiau a chynghreiriau cefnogi: Mae NEA Cymru yn cefnogi rhwydwaith wybodaeth am ddim o dros 550 o unigolion a chyrff sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru – mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw un ag ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru
Hyfforddiant: Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o dlodi tanwydd ac ynni i gyfranogwyr o gyrff preifat, cyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol. Un o’r prif gyrsiau yr ydym yn eu cyflwyno yw Ymwybyddiaeth Ynni City & Guilds NEA 6176; rhaid i bob ymgynghorydd ymwybyddiaeth ynni gael y cymhwyster hwn yn unol â’r Côd Ymarfer
Gallwch ein helpu i wneud gwahaniaeth!
Mae ein gallu i gyflwyno yn dibynnu ar ein llwyddiant i ddenu partneriaid, i gyllido rhai o’n cynigion ac i helpu gydag ochr ymarferol eu cyflawni. Mae NEA Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol; cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau yn y sector preifat; grwpiau cymunedol a gwirfoddol; yn ogystal â chyrff defnyddwyr.
Mae ein fforymau a’n rhwydwaith yn agored ac am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tlodi tanwydd, felly os ydych yn ymrwymedig i fynd i’r afal ag anghyfiawnder tlodi tanwydd ac eisiau gwybod rhagor cysylltwch â 
NEA Cymru
Blwch PO 454
SA1 9EB
