|
|||||||||||||||||||||||
|
TEIMLO R GWRESCredyd ir GymunedMae Undeb Credyd Robert Owen (ROMCUL) wedi ennill y brif wobr yn y gystadleuaeth Teimlor Gwres cynllun gwobrwyo a noddwyd gan SWALEC ac a gynhaliwyd gan yr elusen tlodi tanwydd amlwg yng Nghymru, NEA Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae helpu pobl fregus i dalu eu biliau tanwydd yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni yn hanfodol dywedodd Jane Davidson, Gweinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai wrth gynhadledd yng Ngwestyr Royal yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 26 Mehefin 2008 lle y datgelwyd enwr enillydd.
Robert Owen Montgomeryshire Undeb Credyd - Gwobr 1af(£1500) - o'r chwith i'r dde Gill Williams, Jane Davidson AC, Rina Clarke Derbyniodd ROMCUL £1500 a derbyniodd yr ail ar trydydd £1000 a £500 fel ei gilydd. Dywedodd Rina Clarke, Rheolwraig ROMCU: Rydym wrth ein boddau gydar cyflwyniad hwn. Mae pobl yn ardal Sir Drefaldwyn ymysg y tlotaf yn y wlad gyda chyflogau isel, poblogaeth sydd yn heneiddio, canran uchel o eiddo hynafol, anodd iw cynhesu a unigedd daearyddol, y cyfan yn cyfuno i greu amgylchedd lle y gall pobl deimlo dan warchae. Mae cynnydd mewn costau tanwydd yn gwaethygur broblem.. Dyfeisiwyd y prosiect Monergy gan yr Undeb Credyd mewn partneriaeth gyda Chanolfan Cynghori Bro Ddyfi (BDAC) ac maen dwyn ynghyd cyngor ariannol ac ynni am y tro cyntaf yn ogystal â chymorth gyda chyllidebu a llythrennedd ariannol. Bydd y grant hwn yn galluogi rhagor o bobl i fod yn ymwybodol on gwasanaethau yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol gyda materion unigol. Bydd yr holl fesurau hyn yn mynd cryn dipyn or ffordd tuag at fynd ir afael â thlodi tanwydd sydd yn realaeth i lawer gormod o bobl yn y rhanbarth hwn. Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai, Jane Davidson AC: Rwyn hapus iawn i gefnogir Gwobrau Teimlor Gwres. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wneud popeth y gallwn iw wneud yn fwy fforddiadwy i bobl fregus ar incwm isel i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i yrru hyn ymlaen a c mae cydnabod ymarfer da yn bwysig iawn. Maer UNDEB Credyd hefyd wedi dyfeisio gwasanaeth talu biliau. Maer traws gyfeirio rhwng ROMCUL a BDAC yn sicrhau bod y rhai sydd yn derbyn cyngor ar ddyledion a gwiriadau budd-daliadau yn derbyn cefnogaeth barhaus gan yr Undeb Credyd. Mae budd-daliadau neu gyflogau aelodau yn cael eu talu iw cyfrif ROMCUL. Yna mae cyfrif cyllidebu yn cael ei sefydlu i dalu biliau a gall swm bychan fynd i ad-dalu benthyciad ac ychwanegu at eu cyfranddaliadau, tra bod y gweddill yn cael ei roi mewn cyfrif banc sylfaenol gyda banc Stryd Fawr a gellir cael gafael ar yr arian hwn trwy beiriant ATM. Dywedodd Nuria Zolle, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: Mae tlodi tanwydd yn y DU, yn cynnwys Cymru, wedi cynyddu yn frawychus dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau tanwydd ac maer cynllun gwobrwyo hwn yn ddull newydd o helpu pobl i ymdopi â hynny.
Rydym yn diolch ir holl gyfranogwyr a gobeithio y bydd eu gwaith yn parhau i gefnogir bregus yn eu cymunedau. Bydd y cyllid ychwanegol yn cefnogi gweithredu i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli ac yn buddsoddi ar atebion arloesol sydd yn helpu i fynd ir afael âr materion sydd o bwys mwyaf iw cymunedau. Mae asiantaethau lleol ar flaen y gad gydar gwaith o ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i deuluoedd bregus ac maer wobr hon yn gymorth ir asiantaethau hynny. Rydym yn ddiolchgar i SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad am gefnogir cynllun gwobrwyo hwn. Dywedodd Andrew Lloyd, rheolwr Prosiect Effeithlonrwydd Ynni, SWALEC: Rydym yn hynod o falch o allu cefnogi NEA gydau fforwm a gydar cynllun gwobrwyo Teimlor Gwres. Mae SWALEC eisiau gallu helpu teuluoedd i arbed arian ar eu biliau gwresogi fel nad oes neb yn byw mewn cartref oer; mae cefnogi cynllun gwobrwyo Teimlor Gwres NEA Cymru yn un ffordd y gall SWALEC weld bod hyn yn digwydd. Diwedd Nodiadau i olygyddion 1/ NEA ywr prif elusen tlodi tanwydd sydd yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy yng nghartrefi pobl fregus. Ewch i www.nea.org.uk Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddiffinio fel yr angen i wario dros 10% o incwm y cartref ar gostau tanwydd i gynnal cynhesrwydd digonol ar gyfer iechyd a chyfforddusrwydd. 2/ Mae SWALEC yn rhan or Scottish and Southern Energy Group (SSE). Mae SWALEC yn darparu nwy a thrydan i gwsmeriaid busnes a domestig. Am ymholiadau cyfryngau cysylltwch â Richard Archer ar 0191 2615677 Noddir Gan
Reviewed: 18/08/2008 |
| Site content by NEA
©2008. NEA is an independent charity Registration No. 290511. Company limited by guarantee. Registered in England No. 1853927 |