|
|||||||||||||||||||||||
|
NEWYDDION A CANLYNIADAU
Wyneb newydd yn NEAMae Helen Roach wedi ymuno ag NEA Cymru yn ddiweddar yn y swydd newydd o Swyddog Datblygu. Cyn hyn bun gweithio fel Cydlynydd Cenedlaethol i ymgyrch Llywodraeth y Cynulliad, Cadwn Iach y Gaeaf Hwn, wedii leoli yn Cyngor yr Henoed.. Dywedodd Helen Roach, Tran cydlynur ymgyrch Cadwn Iach y Gaeaf Hwn, dysgais am effaith cartrefi wediu gwresogin wael ar fywydau pobl fregus, ac mae hyn wedi tanio fy mrwdfrydedd dros y pwnc ac rwyn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio fel rhan o NEA Cymru i helpu a herior llywodraeth i gwrdd âi dargedau i gael gwared o dlodi tanwydd. Bydd meysydd gwaith allweddol Helen gyda NEA Cymru yn cynnwys gwaith polisi, datblygu prosiectau ac ymchwilio, ymgyrchu a chefnogi cyrff cyhoeddus a chynrychiolaeth y sector gwirfoddol yng Nghymru. Bydd Helen wedii lleol yn y Deml Heddwch yn Nghaerdydd a gellir cysylltu â hi ar Helen.roach@nea.org.uk neu 07525 323 405. Maen ymuno âr Gyfarwyddwraig Nuria Zolle ar Swyddog Hyfforddi a Datblygu Jane Edgington yn NEA Cymru. Ymateb i Ymgynghoriadau1
2
3
5
2008Cynllun Gwobrwyo Teimlor GwresMae mynd ir afael â thlodi tanwydd yn hanfodol wrth i brisiau ynni godi Mae helpu pobl i dalu eu biliau tanwydd yn wyneb cynnydd mewn prisiau ynni yn hanfodol meddai Jane Davidson y Gweinidog Amgylchedd, Cynaliadwyaeth a Thai wrth gynhadledd a drefnwyd gan elusen tlodi tanwydd amlwg. Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Cynulliad ei bod yn benderfynol i wneud popeth y gallai i helpu i wneud tanwydd yn fwy fforddiadwy ir rhai sydd yn ei chael yn fwyaf anodd i dalu biliau tanwydd cynyddol. Dywedodd Jane Davidson: Rwyf yn hapus iawn i gefnogir Gwobrau Teimlor Gwres. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wneud popeth y gallwn iw gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl fregus ar incwm isel i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru. Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i yrru hyn ymlaen ac mae cydnabod ymarfer da yn bwysig iawn. Noddir y cynllun gwobr gan SWALEC ac maen cael ei redeg gan yr elusen tlodi tanwydd amlwg yng Nghymru, NEA Cymru a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad. Dilynnwch y linc yma i'r enillwyr y gwobrau Dywedodd Nuria Zolle, Cyfarwyddwraig NEA Cymru: Mae tlodi tanwydd yn y DU, yn cynnwys Cymru, wedi cynyddun fawr dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yn bennaf y cynnydd mewn prisiau tanwydd. Mae angen ymrwymiad gan y Llywodraeth, gweithgarwch gan gyflenwyr ynni, ymgyrchu gan elusennau ac arloesi gan asiantaethau i newid y cynnydd hwn ac mae gennym enghreifftiau ardderchog o wahanol fentrau i fynd ir afael â thlodi tanwydd yn y cynllun gwobr hwn. Bydd y cyllido ychwanegol yn cefnogi gweithredu i adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli a buddsoddi mewn atebion arloesol sydd yn helpu i fynd ir afael âr materion sydd bwysicaf iw cymunedau. Mae asiantaethau lleol ar y blaen gydar gwaith o ddarparu cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi bregus ac maer cynllun gwobr hwn yn helpur cyrff hynny. Rydym yn ddiolchgar i SWALEC a Llywodraeth y Cynulliad am gefnogir cynllun gwobr hwn a gobeithio y bydd yn ein helpu i gasglu tystiolaeth am y math o gyllido sydd ei angen yng Nghymru. Dywedodd Andrew Lloyd, rheolwr Prosiect Ynni Effeithlonrwydd SWALEC: Rydym yn falch iawn o allu cefnogi NEA gydai fforwm ar cynllun gwobr Teimlor Gwres. Mae SWALEC eisiau gallu helpu cartrefi i arbed arian ar eu biliau gwresogi fel nad oes neb yn byw mewn cartref oer; mae cefnogi cynllun gwobr Teimlor Gwres NEA Cymru yn un ffordd y gall SWALEC weld bod hyn yn digwydd.
Fforymau Tlodi Tanwydd Gogledd a De CymruMae NEA Cymru yn cynnal Fforymau Tlodi Tanwydd yng Ngogledd a De Cymru. Maer cyfarfodydd wediu hanelu at lunwyr polisi strategol, darparwyr gwasanaeth a grwpiau cymunedol yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb sydd eisiau cael gwared o dlodi tanwydd yn eu cymunedau. Fforwm Tlodi Tanwydd De CymruTachwedd 12fed 2008 c/o CMRC , Y Deml Heddwch , Parc Cathays , Caerdydd, CF10 3AP Noddir gan SWALEC
Fforwm Tlodi Tanwydd Gogledd CymruTachwedd 19fed 2008 Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, FFordd Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SW Noddir gan SCOTTISH POWER
2007DIGWYDDIADAUR GORFFENNOLTwymo Lan: Gweithdai Gweithredu Ymgynghorol 4ydd Rhagfyr 2007 Llandrindod Bu Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai a Dr Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad BEVAN yn annerch y gweithdy ymgynghorol hwn. Roedd y gweithdyn helpu i ganfod y math o weithredu sydd ei angen ar lefel gymunedol er mwyn mynd ir afael â thlodi tanwydd. Hyd yn hyn, gwelwyd cynnydd wrth ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Cynhesrwydd Fforddiadwy yn y 22 ardal awdurdod lleol ar draws Cymru ac maer rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cytuno neun agos at gytuno ar eu cynlluniau. Fe helpodd y gweithdy ni i ganfod sut i adeiladu ar y cynnydd hwn trwy ystyried beth syn gweithio a beth arall sydd angen ei wneud wrth symud ymlaen or cam datblygu cynlluniau i gyflawni gweithredu syn helpu i wneud gwahaniaeth i aelwydydd mewn tlodi tanwydd. Roedd y diwrnod yn cynnwys gweithdai cyfranogol wedi eu cynllunio i ganfod esiamplau o arfer da y prosiectau, partneriaethau a strategaethau effeithiol syn ddiamaun bodoli yng Nghymru. Gofynnwyd i gyfranogwyr hefyd ganfod pa gefnogaeth bellach sydd ei angen yn y dyfodol, a pha gyfleoedd syn bodoli i helpu troi cynlluniaun weithredoedd. Yn ystod y digwyddiad cafwyd gwybodaeth am ddatblygiad canllaw arfer da ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid, syn cael ei ddatblygu gan NEA Cymru ar hyn o bryd. Gwybodaeth canllaw gweithredu i ddilyn yn Gwanwyn 2008.Ymgyrch Cartrefi Cynnes Cychwynnodd yr Ymgyrch Cartrefi Cynnes (Wythnos Cartrefi Cynnes gynt) yn 1991 fel ffordd o godi ymwybyddiaeth ar lefel genedlaethol o effaith mawr tlodi tanwydd. Nod yr ymgyrch yw hybu mwy o fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni er mwyn lleihau tlodi tanwydd a rhoi gwybod ir cyhoedd bod help ar gael i aelwydydd incwm isel ar ffurf grant. Un o amcanion allweddol yr ymgyrch yw addysgu Aelodau Seneddol (AS), Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) ac eraill syn gwneud penderfyniadau ynglŷn âr problemau iechyd syn cael eu creu o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer a thamp ar buddiannau y gall cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni ei olygu. Yn ystod Tachwedd- Rhagfyr 2007 cymerodd 1 AS a 6 AC ran yn yr ymgyrch yng Nghymru a threfnwyd sawl digwyddiad yn ystod yr ymgyrch i ddwyn sylwr cyhoedd at brosiectau blaengar ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol i helpu cael gwared âr broblem o dlodi tanwydd. Trefnwyd Ymgyrch Cartrefi Cynnes 2007 mewn cydweithrediad gyda eaga a chaiff gefnogaeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yng Nghymru a Lloegr. Mae NEA yn cydnabod y gefnogaeth weithredol a gaiff gan y reolwyr cynlluniau Warm Front a HEES ac eaga wrth bennur cleientiaid a gafodd ymweliad gan yr AS ac AC.
Yn ystod yr ymgyrch eleni enillodd Tîm Hawliau Lles Castell Nedd a Phort Talbot £500 gan NEA i drefnu digwyddiad gwneud y gorau o incwm ar gyfer teuluoedd gyda phlant- gwyliwch y gofod hwn ac efallai mai chi fydd nesaf! Trechur Oerfel: Gweithredu i gael gwared â thlodi tanwydd yng Nghymru.Mae adroddiad ar ganfyddiadau cynhadledd National Energy Action Cymru, a gynhaliwyd yng Ngwestyr Marriot, Caerdydd ar y 27ain Mehefin 2007, ar gael iw lawr lwytho. Ymysg y siaradwyr allweddol oedd Ms Sugar (Cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru), Dr Rogers (Cyfarwyddwr GIG), Ms Whittaker (Cyfarwyddwr Tai yn Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol), Mr. Benfield (Prif Weithredwr CGGC) a Mr. Dimblebee (Partner Ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru). Maer adroddiad hwn yn darparu crynodeb byr or trafodaethau llawn ac yn cofnodi sylwedd y trafodaethau yn y gweithdai (a hwyluswyd gan aelodau o grwpiau pobl ifanc a rhwydweithiau pobl hŷn) syn pwysleisior meysydd ar gyfer gweithgaredd yn y dyfodol a syniadau ar gyfer gweithredu.
AROLWG BYW YNG NGHYMRUYm mis Hydref 2007 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei adroddiad Byw yng Nghymru, oedd yn cadarnhau ein hofnau gwaethaf. O 2001-2006 mae prisiau cynyddol ynni wedi golygu bod y nifer o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru bron wedi dyblu i bron i chwarter miliwn o aelwydydd! Edrychwch ar yr adroddiad llawn:
Am wybodaeth bellach - cysylltwch â Jane Edgington Swyddog Hyfforddiant a Datblygiad Telefon 07730519207 / 01490413223
Reviewed: 18/07/2008 |
| Site content by NEA
©2008. NEA is an independent charity Registration No. 290511. Company limited by guarantee. Registered in England No. 1853927 |