CROESO I NEA CYMRU
Elusen Gweithredu Ynni Cenedlaethol y DU Saesneg
Ymgyrchu dros gartrefi cynnes a rhoi terfyn ar dlodi tanwydd yn
g Nghymru
Pwy ydym ni?
NEA Cymru yw cangen Cymru o NEA (Gweithredu Ynni Cenedlaethol) prif elusen tlodi tanwydd y DU. Yng Nghymru, fel ag yng ngweddill y DU, rydym yn ymgyrchu dros roi terfyn ar dlodi tanwydd trwy gynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
Beth yw tlodi tanwydd?
Mae Tlodi Tanwydd ar gynnydd yng Nghymru fel yng ngweddill y DG. Yn Hydref 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganfyddiadau ei arolwg Byw yng Nghymru. Roedd yn dangos er bod tlodi tanwydd wedi gostwng yn sylweddol rhwng 1998 a 2004 o 330,000 i 134,000 o aelwydydd, bod prisiau cynyddol ynnin golygu bod y nifer o aelwydydd tlawd o ran tanwydd wedi dyblu bron i 240,000 250,000, rhwng 2004 a 2006. Or aelwydydd hyn mae 209,000 yn cael eu cyfrin agored i niwed.
Y tu ôl ir diffiniad technegol mae profiadau go iawn o bobl yn byw mewn cartrefi oer a llaith na allant fforddio cynhesu eu cartrefi. Rydym yn clywed hanesion am sawl tad-cu a mam-gu yn rhynnu yn y gaeaf oherwydd eu bod yn gwybod os byddant yn talu eu biliau gwresogi yna ni fyddant yn gallu fforddio prynu anrhegion Nadolig iw hwyrion au hwyresau. Rydym yn clywed hefyd am bobl ifanc sydd yn mynd i ddyledion mawr er mwyn talu eu biliau gwresogi.
Mae NEA Cymru yn credu na ddylai pobl, nifer ohonynt yn fregus iawn, orfod wynebur dewisiadau amhosibl hyn, sydd yn y pen draw yn effeithio ar iechyd, lles personol ac urddas pobl. Dyna pam yr ydym yn ymgyrchu dros gynhesrwydd fforddiadwy i bawb.
Cynhesu?
Mae rhan hanfodol o waith NEA Cymru yn cynnwys ymgyrchu dros mwy o weithredu ar ran y Llywodraeth i fynd ir afael â thlodi tanwydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gosod targedau i gael gwared ar dlodi tanwydd erbyn 2018, gyda thargedau dros dro i gael gwared a dlodi tanwydd ymysg grwpiau bregus erbyn 2010 ac mewn tai cymdeithasol erbyn 2012. Maer targedau hyn wedi gosod y pwyslais ar ffocws ar yr angen i gyflwyno cymorth ymarferol i gartrefi incwm isel sydd mewn perygl oherwydd canlyniadau tanwydd tlodi./ Ond mae nifer o anawsterau ymarferol sydd yn effeithio ar gyflawniad y targedau hyn:
- Mae cynnydd diweddar mewn prisiau ynni yn golygu bod y bil ar gyfartaledd ar gyfer cartrefi yng Nghymru dros £1000 erbyn diwedd 2006. Er bod prisiau yn dechrau gostwng ychydig, maent yn debygol o barhaun uchel. Mae prisiau trydan yng Nghymru fodd bynnag 10% yn uwch nag yn Lloegr.
- Nid oes gan 200,000 o gartrefi fodd o gael nwy or prif ffynhonnell ac i filoedd o bobl mae waliau solid yn gwneud insiwleiddio effeithiol yn anodd.
- Mae incwm isel yn gydran mawr o dlodi tanwydd ac er gwaethaf y cynnydd mewn ffyniant economaidd, mae Cymru yn dal i fod ymysg y rhanbarthau tlotaf yn Ewrop.
Cyflawni Cynhesrwydd Fforddiadwy
Mae cynllun gwaith NEA Cymru ar gyfer Cymru wedii ddylunio i ymateb ir sialensau hyn ac i sialensau eraill. Yn dilyn ymgynghoriadau gyda rhan ddeiliaid, i gyflawni ein nod rydym wedi dyfeisio yr amcanion canlynol ar gyfer NEA Cymru:
- Gweithio gyda phob cynrychiolydd gwleidyddol i godi ymwybyddiaeth am adnoddau a mesurau angenrheidiol i gael gwared o dlodi tanwydd.
- Datblygu cynghreiriau cryf yn erbyn tlodi tanwydd i wella gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio a sicrhau bod profiadau rhan ddeiliaid yn llywio polisi ac ymarfer
- Datblygu cymwysterau cenedlaethol a rheoli eu gweithrediad i wella safonau gwaith ymarferol ac ansawdd cyngor ynni
- Datblygu prosiectau piblinellau arloesol sydd yn cyfrannu at gael gwared o dlodi tanwydd yng Nghymru a darparur sylfaen tystiolaeth i lywio cynllunio a strategaeth ar gyfer Cymru yn ogystal ag enillion ymarferol in cymunedau
Sicrhau ymrwymiad
Mae rhai on huchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys:
Ymgyrch Cartrefi Cynnes: Mae AC ac AS Cymru yn cyfarfod yn flynyddol â chartrefi bregus ac yn darganfod drostynt eu hunain y cyfraniad y mae effeithlonrwydd ynni yn ei wneud i gael gwared o dlodi tanwydd o dan ein Hymgyrch Cartrefi Cynnes;
Briffio cyn yr etholiad: Mae NEA wedi cael ymrwymiad ar draws y pleidiau i dlodi tanwydd ar ôl etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ymchwil a dadansoddiad i achosion a graddau tlodi tanwydd a datblygiad polisi sydd yn mynd ir afael âr broblem
Cynnwys pawb! hwyluso fforymau tlodi tanwydd yng ngogledd, canolbarth a de Cymru a sicrhau bod argymhellion a wneir gan ran ddeiliaid yn y sesiynau hyn yn cael eu hystyried gan Grŵp Ymgynghorol Tlodi Tanwydd
Creu rhwydweithiau a chynghreiriau cefnogi: Mae NEA Cymru yn cefnogi rhwydwaith wybodaeth am ddim o dros 800 o unigolion a chyrff sydd wedi ymrwymo i fynd ir afael â thlodi tanwydd yng Nghymru maer rhwydwaith yn agored i unrhyw un ag ymrwymiad i fynd ir afael â thlodi tanwydd yng Nghymru
Hyfforddiant: Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o dlodi tanwydd ac ynni i gyfranogwyr o gyrff preifat, cyhoeddus, cymunedol a gwirfoddol. Un or prif gyrsiau yr ydym yn eu cyflwyno yw Ymwybyddiaeth Ynni City & Guilds NEA 6176; rhaid i bob ymgynghorydd ymwybyddiaeth ynni gael y cymhwyster hwn yn unol âr Côd Ymarfer
Gallwch ein helpu i wneud gwahaniaeth!
Mae ein gallu i gyflwyno yn dibynnu ar ein llwyddiant i ddenu partneriaid, i gyllido rhai on cynigion ac i helpu gydag ochr ymarferol eu cyflawni. Mae NEA Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol; cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau yn y sector preifat; grwpiau cymunedol a gwirfoddol; yn ogystal â chyrff defnyddwyr.
Mae ein fforymau an rhwydwaith yn agored ac am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tlodi tanwydd, felly os ydych yn ymrwymedig i fynd ir afal ag anghyfiawnder tlodi tanwydd ac eisiau gwybod rhagor:
NEA Cymru

Blwch PO 454
SA1 9EB
Cysylltwch â NEA Cymru
Swyddog Datblygu
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: gwaith polisi, datblygu ac ymchwil prosiectau, ymgyrchu, cefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghyrmu a chynrychiolaeth y sector cyhoeddus
Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg cysylltwch â
Swyddog hyfforddi a datblygu
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: hyfforddiant, datblygu cymunedol yn cynnwys prosiectau, Cynllun yr Iaith Gymraeg a Rhwydwaith Electronig Gweithredu Tlodi Tanwydd Cymru
Cyfarwyddwraig NEA Cymru
Prif gyfrifoldebau yn cynnwys: strategaeth a materion cyhoeddus, Fforymau Tlodi Tanwydd Cymru, Grwp Ymgynghorol Tlodi Tanwydd Cymru, Cynhadledd Tlodi Tanwydd Cenedlaethol Updated: 23/07/2008 |